Deddf Cynllunio 2008: Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol: Proses Gwmpasu – Cwestiynau Cyffredin

Mai 2018

Cynnwys

1. Beth yw cais cwmpasu?
2. Beth y mae’n rhaid i gais cwmpasu ei gynnwys?
3. Ble gallaf weld Adroddiad Cwmpasu’r Ymgeisydd?
4. Faint o amser sydd gan yr Arolygiaeth Gynllunio i ymateb i’r cais cwmpasu?
5. Pa ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal ar y cais cwmpasu?
6. A allaf roi sylwadau ar y cais cwmpasu?
7. Beth yw’r Farn Gwmpasu?
8. Pa bwys y dylai’r Ymgeisydd ei roi ar y Farn Gwmpasu sy’n cael ei chyhoeddi gan yr Arolygiaeth Gynllunio?
9. Beth sy’n digwydd os bydd yr Ymgeisydd yn anghytuno â Barn Gwmpasu’r Ysgrifennydd Gwladol neu’n peidio â gweithredu arni?
10. A fydd Barn Gwmpasu’r Ysgrifennydd Gwladol yn effeithio ar b’un a fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn derbyn cais i’w archwilio?
11. Rwyf wedi gweld rhywogaeth a warchodir ar dir sydd wedi’i glustnodi ar gyfer datblygu. A ddylwn roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio?
12. Ble gallaf weld Barn Gwmpasu’r Ysgrifennydd Gwladol?
13. Ble gallaf ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y broses gwmpasu?

1. Beth yw cais cwmpasu?

Mae Rheoliad 10(1) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (Rheoliadau AEA) yn caniatáu i rywun sy’n bwriadu gwneud cais am orchymyn sy’n rhoi caniatâd datblygu (yr Ymgeisydd) ofyn i’r Arolygiaeth Gynllunio (yr Arolygiaeth), ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol (YG), roi ei barn ysgrifenedig (y Farn Gwmpasu) ar gwmpas a lefel manylder y wybodaeth a fydd yn cael ei rhoi yn y Datganiad Amgylcheddol (y DA). Fel arfer, mae’r cais cwmpasu yn cynnwys Adroddiad Cwmpasu sy’n cael ei ddarparu gan yr Ymgeisydd ac sy’n amlinellu’r wybodaeth sydd ei hangen o dan Reoliad 10(1) Rheoliadau AEA.

2. Beth y mae’n rhaid i gais cwmpasu ei gynnwys?

Rhaid i’r cais a wneir o dan Reoliad 10(1) Rheoliadau AEA gynnwys:

  • cynllun digonol i nodi’r tir;
  • disgrifiad o’r Datblygiad Arfaethedig, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;
  • esboniad o effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd; ac
  • unrhyw wybodaeth neu sylwadau eraill yr hoffai’r unigolyn sy’n gwneud y cais ei rhoi neu eu gwneud.

3. Ble gallaf weld Adroddiad Cwmpasu’r Ymgeisydd?

Ar ôl iddo gael ei dderbyn a phenderfynu ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl y Rheoliadau AEA, caiff Adroddiad Cwmpasu’r Ymgeisydd ei gyhoeddi ar dudalen y prosiect.

4. Faint o amser sydd gan yr Arolygiaeth Gynllunio i ymateb i’r cais cwmpasu?

Yn unol â Rheoliad 10(6) y Rheoliadau AEA, rhaid i’r Arolygiaeth (ar ran yr YG) fabwysiadu Barn Gwmpasu cyn pen 42 diwrnod o dderbyn cais cwmpasu. Mae’r amserlen hon yn un benodedig ac nid oes modd ei hymestyn.

5. Pa ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal ar y cais cwmpasu?

Cyn mabwysiadu Barn Gwmpasu, mae’n rhaid i’r Arolygiaeth, o dan Reoliad 10(6) y Rheoliadau AEA, ymgynghori â’r ‘cyrff ymgynghori’ perthnasol sydd wedi’u diffinio yn y Rheoliadau AEA fel a ganlyn:

5.1. Cyrff ymgynghori rhagnodedig

Dyma’r cyrff sydd wedi’u nodi yn Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (fel y’i diwygiwyd), gan gynnwys ‘Ymgymerwyr Statudol’.

Caiff Ymgymerwyr Statudol eu diffinio yn Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 yn ôl yr un ystyr ag yn a127 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008), sy’n diffinio ymgymerwyr statudol fel a ganlyn:

  • bod ganddo’r ystyr a roddwyd gan a8 Deddf Caffael Tir 1981, sef Ymgymerwyr Statudol mewn sectorau penodedig;
  • y rhai sydd wedi’u hystyried yn Ymgymerwyr Statudol at ddibenion Deddf Caffael Tir 1981, drwy rinwedd ymddeddfiad arall; ac
  • y rhai sy’n Ymgymerwyr Statudol at ddibenion a16(1) a (2) Deddf Caffael Tir 1981, sef cyrff iechyd penodedig.

Rhaid i’r Arolygiaeth naill ai ymgynghori â chyrff rhagnodedig ym mhob achos, neu mae ganddi’r disgresiwn i benderfynu pa gyrff y dylid ymgynghori â nhw drwy fabwysiadu ‘prawf perthnasedd’ a/neu drwy benderfynu a yw amgylchiadau penodol yn berthnasol, fel yr amlinellir yn Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009.

5.2. Awdurdodau lleol

Mae’r rhain wedi’u diffinio yn adran 43 DC2008 o ran p’un a ydynt yn disgyn o fewn categori awdurdod lleol ‘A’, ‘B’, ‘C’ neu ‘D’, sef:

  • ‘A’ yw awdurdod lleol cyfagos (s43(3)) sy’n rhannu ffin ag awdurdod lletyol ‘B’;
  • ‘B’ yw naill ai cyngor unedol neu gyngor dosbarth haen is y mae’r Datblygiad Arfaethedig ac unrhyw Ddatblygiad Cysylltiedig wedi’i leoli ynddo (awdurdod lletyol);
  • ‘C’ yw cyngor sir haen uwch y mae’r Datblygiad Arfaethedig wedi’i leoli ynddo (awdurdod lletyol); a
  • ‘D’ yw awdurdod lleol cyfagos (s42(3)) nad yw’n gyngor dosbarth haen is ac sy’n rhannu ffin ag awdurdod ‘C’.

5.3. Awdurdod Llundain Fawr

Os yw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn Llundain Fawr, rhaid i’r Arolygiaeth ymgynghori ag Awdurdod Llundain Fawr.

Mae’r Arolygiaeth hefyd wedi nodi nifer o gyrff nad ydynt wedi’u diffinio’r cyrff ymgynghori o dan y Rheoliadau AEA, ond sydd â swyddogaethau a chyfrifoldebau perthnasol sy’n debyg i gyrff ymgynghori eraill. Bydd yr Arolygiaeth yn arfer barn a gallai, ar sail disgresiynol ac anstatudol, ymgynghori â’r cyrff hyn ar y wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn DA. Caiff y cyrff hyn eu nodi yn Nodyn Cyngor Tri yr Arolygiaeth.

Yn unol â Rheoliad 10(11) y Rheoliadau AEA, mae gan y cyrff ymgynghori 28 diwrnod o dderbyn gohebiaeth yr Arolygiaeth i ymateb i’r ymgynghoriad. Ni fydd ymatebion sy’n cael eu derbyn ar ôl y terfyn amser o 28 diwrnod yn cael eu hystyried ym Marn Gwmpasu’r YG; mae gan yr Arolygiaeth hawl i dybio nad oes gan y corff ymgynghori dan sylw unrhyw sylwadau ar y wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y DA na’r DA wedi’i ddiweddaru.

6. A allaf roi sylwadau ar y cais cwmpasu?

Dim ond y cyrff ymgynghori sydd wedi’u nodi uchod a fydd yn cael eu gwahodd i roi sylwadau ar gais cwmpasu’r Ymgeisydd neu’n cael eu cynnwyd ym Marn Gwmpasu’r YG. Fodd bynnag, ar wahân, fel rhan o ddyletswyddau ymgynghori Cyn-ymgeisio’r Ymgeisydd, bydd Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC) yn cael ei baratoi sy’n amlinellu sut yr ymgynghorir â’r gymuned leol ynghylch y Datblygiad Arfaethedig. Gan fod y prosiect yn ddatblygiad AEA a bod angen cyflwyno Datganiad Amgylcheddol, bydd y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned yn amlinellu sut mae’r Ymgeisydd yn bwriadu rhoi cyhoeddusrwydd i’r Wybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol ynghylch effeithiau sylweddol tebygol y prosiect, ac ymgynghori arni. Felly, yn ystod y cam hwn, bydd unigolion a chyrff na chawsant eu gwahodd i roi sylwadau ar y cais cwmpasu yn gallu rhoi sylwadau ar y wybodaeth amgylcheddol yn ymwneud â’r Datblygiad Arfaethedig.

Ni all yr Arolygiaeth roi sylwadau ar rinweddau Datblygiad Arfaethedig na’r tebygolrwydd y bydd cais am ganiatâd datblygu yn cael ei dderbyn os caiff ei gyflwyno, ac ni fydd yn gohebu ynghylch y mater hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned i’w gweld yn Nodyn Cyngor Dau yr Arolygiaeth, sydd i’w gweld ar < a href=” https://infrastructure.planninginspectorate.gov.uk/cy/legislation-and-advice/advice-notes/”>y dudalen Nodiadau Cyngor.

7. Beth yw Barn Gwmpasu?

Barn Gwmpasu yw barn ysgrifenedig yr YG ynghylch cwmpas a lefel manylder y wybodaeth y dylai’r Ymgeisydd ei rhoi yn y Datganiad Amgylcheddol sy’n cyd-fynd â chais am ganiatâd datblygu. Mae’r Arolygiaeth yn paratoi’r Farn Gwmpasu ar ran yr YG.

Dan Reoliad 10(9) y Rheoliadau AEA, cyn mabwysiadu Barn Gwmpasu, mae’n rhaid i’r YG neu’r awdurdod perthnasol ystyried:

  • unrhyw wybodaeth a ddarperir am y Datblygiad Arfaethedig;
  • nodweddion penodol y datblygu; ac
  • effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd.

8. Pa bwys y dylai’r Ymgeisydd ei roi ar y Farn Gwmpasu sy’n cael ei chyhoeddi gan yr Arolygiaeth Gynllunio?

Dywed Rheoliad 14(3)(a) y Rheoliadau AEA, lle mae Barn Gwmpasu wedi’i mabwysiadu, dylai Datganiad Amgylcheddol yr Ymgeisydd “fod yn seiliedig ar y farn gwmpasu ddiweddaraf a fabwysiadwyd (cyhyd â bod y datblygiad arfaethedig yn sylweddol debyg i’r datblygiad arfaethedig a oedd yn destun i’r farn honno)”.

Mae’r Arolygiaeth yn disgwyl y bydd y dull methodolegol yn esblygu rhywfaint rhwng y cam Cwmpasu a chyflwyno cais ar gyfer caniatâd datblygu. Rhaid i’r Ymgeisydd ddangos sut mae Datganiad Amgylcheddol a gyflwynir fel rhan o gais am ganiatâd datblygu yn bodloni gofynion Rheoliad 14(3)(a).

9. Beth sy’n digwydd os bydd yr Ymgeisydd yn anghytuno â Barn Gwmpasu’r Ysgrifennydd Gwladol neu’n peidio â gweithredu arni?

Fel y crybwyllwyd uchod, dywed Rheoliad 14(3)(a) y Rheoliadau AEA, lle mae Barn Gwmpasu wedi’i mabwysiadu, dylai Datganiad Amgylcheddol yr Ymgeisydd “fod yn seiliedig ar y farn gwmpasu ddiweddaraf a fabwysiadwyd (cyhyd â bod y datblygiad arfaethedig yn sylweddol debyg i’r datblygiad arfaethedig a oedd yn destun i’r farn honno)”. Rhaid i’r Ymgeisydd ddangos sut mae Datganiad Amgylcheddol a gyflwynir fel rhan o gais am ganiatâd datblygu yn bodloni’r gofyniad hwn, a chyfiawnhau unrhyw wyriad oddi wrth Farn Gwmpasu’r YG oherwydd esblygiad y prosiect neu fethodolegau. Os bydd y Datblygiad Arfaethedig yn newid yn sylweddol rhwng y cam Cwmpasu a chyflwyno cais am ganiatâd datblygu, dylai’r Ymgeisydd ystyried cyflwyno cais cwmpasu newydd.

10. A fydd Barn Gwmpasu’r Ysgrifennydd Gwladol yn effeithio ar b’un a fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn derbyn cais i’w archwilio?

Yn unol â Rheoliad 5(2) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009, bydd angen i’r Ymgeisydd gyflwyno’r Datganiad Amgylcheddol a Barn Gwmpasu’r YG gyda’r cais am ganiatâd datblygu er mwyn i’r cais gael ei dderbyn i’w archwilio. Fel y crybwyllwyd uchod, rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol “fod yn seiliedig ar y farn gwmpasu ddiweddaraf a fabwysiadwyd (cyhyd â bod y datblygiad arfaethedig yn sylweddol debyg i’r datblygiad arfaethedig a oedd yn destun i’r farn honno)”, yn unol â Rheoliad 14(3)(a) y Rheoliadau AEA.

11. Rwyf wedi gweld rhywogaeth a warchodir ar dir sydd wedi’i glustnodi ar gyfer datblygu. A ddylwn roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio?

Mae awdurdodau lleol yn cadw ac yn rheoli cofnodion ar bresenoldeb planhigion, anifeiliaid a chynefinoedd ar bob darn o dir. Felly, os byddwch yn nodi rhywogaeth a warchodir ar dir sydd wedi’i glustnodi gan yr Ymgeisydd ar gyfer ei ddatblygu, y peth callaf yw cysylltu â swyddog cadwraeth neu adran ecoleg yr awdurdod lleol perthnasol i sicrhau bod hyn wedi’i gofnodi neu y gallant ei godi yn ystod y broses Cwmpasu.

12. Ble gallaf weld Barn Gwmpasu’r Ysgrifennydd Gwladol?

Bydd Barn Gwmpasu’r YG yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr Arolygiaeth ar ddiwedd y cyfnod cwmpasu statudol o 42 diwrnod (neu cyn hynny, os yw’n berthnasol). Caiff Barnau Cwmpasu eu cyhoeddi ar dudalen y prosiect perthnasol ar dudalen y prosiect.

13. Ble gallaf ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y broses gwmpasu?

Mae Nodyn Cyngor Saith yr Arolygiaeth: Asesu Effeithiau Amgylcheddol: Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, Sgrinio a Chwmpasu, yn rhoi mwy o wybodaeth am gwmpasu a gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol.