Deddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd) Adran 53: Hawliau mynediad – Cwestiynau cyffredin

13 Gorffennaf 2017

Tabl Cynnwys

1. Cyflwyniad i’r cwestiynau cyffredin
1.0 Beth yw adran 53?
1.1 Pam yr ydym wedi creu’r cwestiynau cyffredin am a53?
1.2 Statws cyfreithiol y cwestiynau cyffredin am a53
2. Proses adran 53
2.1 Pa ddeddfwriaeth, canllawiau a chyngor sydd ar gael mewn perthynas ag awdurdodiad a53?
2.2 Pa wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn awdurdodiad a53?
2.3 Pwy sy’n gallu gwneud cais am awdurdodiad a53?
2.4 Pa mor fuan y gellir gwneud cais am awdurdodiad a53 ar ôl dechrau trafodaethau gwirfoddol â thirfeddiannwr?
2.5 Pwy sy’n rhan o’r broses a53?
2.6 Pwy sydd ag awdurdod i gael mynediad at dir o dan awdurdodiad a53 a phwy yw ‘unigolion awdurdodedig’?
2.7 pwy sy’n penderfynu ar yr awdurdodiad a53?
2.8 Pa fynediad y gellir ei gynnwys mewn awdurdodiad?
2.9 Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i brosesu cais am awdurdodiad a53?
2.10 A fydd awdurdodiad yn cael ei roi’n awtomatig ar ôl cyfnod penodol yn dilyn cyflwyno cais am awdurdodiad a53?
2.11 Am ba mor hir y mae awdurdodiad a53 yn para?
2.12 A oes hawl gan y partïon y mae awdurdodiad a53 yn effeithio ar eu tir i gael iawndal, a beth fydd yn digwydd ar ôl i’r ‘unigolion awdurdodedig’ gwblhau’r gweithgareddau awdurdodedig?
2.13 A oes hawl gyfreithiol i herio unrhyw benderfyniad a53?
3. Gwneud sylwadau ar gais am awdurdodiad a53; awdurdodiad a53; neu’r broses awdurdodi
3.1 Fel aelod o’r cyhoedd, sut gallaf wneud sylwadau ar gais am awdurdodiad a53, yr awdurdodiad neu unrhyw ran o’r broses?
4. Yr hyn y mae awdurdodiad a53 yn ei olygu ar gyfer statws datblygiad arfaethedig
4.1 A yw awdurdodiad a53 yn pennu p’un a yw datblygiad arfaethedig yn brosiect seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol?
4.2 A yw awdurdodiad a53 yn pennu p’un a fydd caniatâd datblygu yn cael ei roi ar gyfer y datblygiad arfaethedig?
4.3 A yw awdurdodiad a53 yn golygu bod yr arolygiaeth yn cefnogi datblygiad arfaethedig?
4.4 A yw awdurdodiad a53 yn golygu bod yr arolygiaeth o’r farn bod datblygiad arfaethedig yn hyfyw yn ariannol?
5. Pwerau gorfodi a53
5.1 Beth fydd yn digwydd os bydd amodau awdurdodiad a53 yn cael eu torri?
5.2 Pwy sy’n gorfodi’r awdurdodiad a53, fel arfer?
5.3 Fel aelod o’r cyhoedd, os sylwaf fod ymgeisydd a53 yn torri telerau’r awdurdodiad a53, sut gallaf gwyno?
6. Pwerau ar wahân i a53 i gael mynediad at dir
6.1 A all ymgeisydd am ganiatâd datblygu ddefnyddio a172 deddf tai a chynllunio 2016 (fel y’i diwygiwyd gan ddeddf cynllunio cymdogaeth 2017) yn lle a52 dc2008 i gael mynediad at dir?
7. Gofynion cyhoeddi a53
7.1 Pa wybodaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi am yr awdurdodiad a53?
7.2 Pryd y bydd gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi am awdurdodiad a53 cyn penderfyniad?
8. Hawliau dynol
8.0 Pa ystyriaeth sy’n cael ei rhoi i hawliau dynol?
9. Acronymau a byrfoddau

1. Cyflwyniad i’r cwestiynau cyffredin

1.0 Beth yw Adran 53?

O dan Adran 53 (a53) Deddf Cynllunio 2008 (DC2008), gall yr Arolygiaeth Gynllunio (yr Arolygiaeth), wrth weithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, awdurdodi unigolyn/unigolion i fynd i dir y mae trydydd parti’n berchen arno, er mwyn cynnal arolygon a mesur lefelau, ac/neu er mwyn hwyluso cydymffurfio â darpariaethau statudol, gweithredu’r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol (EIA) neu’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, mewn cysylltiad â chais am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO), cais arfaethedig am DCO, neu DCO a wnaed sy’n cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael y tir hwnnw neu fuddiant drosto yn orfodol. Gall y pŵer mynediad gynnwys y pŵer i chwilio a thyllu er mwyn canfod natur yr isbridd neu bresenoldeb mwynau neu sylweddau eraill ynddo a/neu gymryd a phrosesu samplau.

1.1 Pam yr ydym wedi creu’r cwestiynau cyffredin am a53?

Mae ceisiadau am awdurdodiad Adran 53 yn gallu creu cryn dipyn o ohebiaeth gyhoeddus. Hyd yn hyn, mae’r ohebiaeth wedi ymwneud yn bennaf â’r broses a sut y gwneir yr awdurdodiad a53.

Er mwyn mynd i’r afael â phwyntiau sy’n cael eu codi’n rheolaidd mewn perthynas â’r broses a53, a hynny mewn modd cyson a chryno, mae’r Arolygiaeth wedi paratoi cyfres o Gwestiynau Cyffredin yn ymwneud â’r broses a53.

Mae adrannau 2 i 8 o’r ddogfen hon yn cynnwys y cwestiynau cyffredin a’r ymatebion.

Mae Adran 9 y ddogfen hon yn cynnwys rhestr o fyrfoddau a thermau a ddefnyddir yn y ddogfen.

1.2 Statws cyfreithiol y Cwestiynau Cyffredin am a53

Nid yw unrhyw gyngor sy’n cael ei roi gan yr Arolygiaeth yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol y gall ymgeiswyr a53 (neu bobl eraill) ddibynnu arno, ac ni all yr Arolygiaeth ddarparu dehongliad terfynol o’r gyfraith.

2. Proses Adran 53

2.1 Pa ddeddfwriaeth, canllawiau a chyngor sydd ar gael mewn perthynas ag awdurdodiad a53?

Ar wahân i’r ddogfen cwestiynau cyffredin hon, mae’r dogfennau canlynol ar gael sy’n ymwneud ag a53:

Argymhellir yn gryf eich bod yn darllen y dogfennau hyn, yn ogystal â’r cwestiynau cyffredin, cyn gofyn unrhyw gwestiynau yn ymwneud â phroses awdurdodi a53.

Yn ogystal â’r dogfennau hyn, mae awdurdodiadau a53 presennol ar gael ar dudalennau gwe Seilwaith Cenedlaethol yr Arolygiaeth e.e. a53 Maes Awyr Manston.

Mae’r Arolygiaeth wedi ymrwymo i wella’n barhaus ac mae’n adolygu ei chyngor mewn perthynas â’r broses a53 yn rheolaidd er mwyn ystyried newidiadau deddfwriaethol perthnasol, dyfarniadau llys ac adborth a gafwyd gan randdeiliaid. Gallai cyngor fel NC5 a’r ddogfen cwestiynau cyffredin hon gael eu diweddaru a’u hailgyhoeddi yn y dyfodol; felly, dylai pobl sydd â buddiant mewn tir wirio tudalennau cyngor yr Arolygiaeth i sicrhau eu bod yn defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o unrhyw gyngor.

2.2 Pa wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn awdurdodiad a53?

Bydd awdurdodiad a53 sy’n cael ei gyhoeddir gan yr Arolygiaeth yn cynnwys:

Yr awdurdodiad ysgrifenedig sy’n amlinellu graddau’r mynediad a’r math o fynediad sy’n cael eu hawdurdodi. Bydd yn cynnwys yr atodiadau canlynol, fel arfer:

  • Termau a diffiniadau;
  • Cynllun sy’n dangos y tir;
  • Rhestr amodau; a
  • Rhestr arolygon.

Nid oes fformat penodol ar gyfer awdurdodiad. Gall yr Arolygiaeth ddewis amrywio fformat yr awdurdodiad o bryd i’w gilydd i weddu’n well i anghenion ceisiadau unigol.

Mae Datganiad Rhesymau yn cyd-fynd â’r awdurdodiad ysgrifenedig, yn amlinellu pam y rhoddwyd yr awdurdodiad.

2.3 Pwy sy’n gallu gwneud cais am awdurdodiad a53?

Gall unigolyn wneud cais am hawl i fynd ar dir y mae trydydd parti’n berchen arno o dan a53 mewn cysylltiad â chais am DCO, cais arfaethedig am DCO, neu DCO a wnaed sy’n awdurdodi caffael y tir hwnnw, neu hawl dros y tir hwnnw, yn orfodol. Gellir rhoi hawliau mynediad o dan a53 dim ond er mwyn cynnal arolygon a mesurau lefelau tir, neu er mwyn hwyluso cydymffurfio â darpariaethau statudol neu weithredu’r Gyfarwyddeb AEA neu’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Gallai hyn gynnwys y pŵer i chwilio a thyllu er mwyn canfod natur isbridd neu bresenoldeb mwynau neu sylweddau eraill ynddo a / neu gymryd a phrosesu samplau.

Os bydd awdurdodiad yn cael ei geisio mewn perthynas â chais arfaethedig am DCO, dywed (isadran 1(b)) a53(2) DC2008:

“(2) Gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi awdurdodiad o dan isadran (1)(b) mewn perthynas ag unrhyw dir dim ond os yw’n ymddangos i’r Ysgrifennydd Gwladol —

(a) bod yr ymgeisydd arfaethedig yn ystyried prosiect penodol o sylwedd go iawn sydd wir yn golygu bod angen mynd at y tir”

Ni fydd rhoi na gwrthod awdurdodiad a53 sy’n ymwneud â chais arfaethedig am DCO yn effeithio ar dderbyn unrhyw gais DCO dilynol. Bydd unrhyw gais dilynol am DCO yn cael ei ystyried i’w dderbyn yn erbyn y profion statudol yn a55 DC2008.

2.4 Pa mor fuan y gellir gwneud cais am awdurdodiad a53 ar ôl dechrau trafodaethau gwirfoddol â thirfeddiannwr?

Mae’r canllawiau statudol a luniwyd gan DCLG yn pwysleisio y dylai pwerau a53 fod yn gymesur (Canllawiau ar Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010, DCLG, Mawrth 2017). Disgwylir i ymgeiswyr weithredu’n rhesymol, gan geisio cael gwybodaeth berthnasol neu ganiatâd i gael mynediad at dir yn uniongyrchol yn gyntaf (drwy gytundeb preifat) cyn ceisio awdurdodiad o dan ddarpariaethau a53. Nid oes unrhyw gyfnod lleiaf wedi’i bennu ar gyfer trafodaethau gwirfoddol ynglŷn â mynediad at dir. Yn rhan o gais am awdurdodiad a53, rhaid i ymgeiswyr a53 gyfiawnhau pam y maent o’r farn y gwrthodwyd rhoi mynediad a/neu wybodaeth iddynt yn afresymol yn ystod unrhyw gyfnod trafod.

2.5 Pwy sy’n rhan o’r broses a53?

Mae sawl parti’n rhan o’r broses a53, a chaiff eu rolau unigol eu hystyried yn fanylach yn NC5. Yn y rhan fwyaf o achosion, y partïon dan sylw fydd:

  • yr Ymgeisydd a53 (yr unigolyn sy’n gwneud cais am fynediad at y tir o dan a53);
  • y Tirfeddiannwr/Tirfeddianwyr (yr unigolyn/unigolion sy’n berchen ar y tir y ceisir mynediad ato);
  • unigolion sydd â buddiant yn y tir (er enghraifft perchenogion, preswylwyr, tenantiaid a deiliaid prydles y tir y ceisir mynediad ato); ac
  • yr Arolygiaeth.

Nid oes modd i’r cyhoedd gymryd rhan yn y broses, ac nid oes angen ystyried gohebiaeth gan y cyhoedd yn ymwneud â phroses a53. O ganlyniad, nid yw’r Arolygiaeth yn ceisio safbwyntiau’r cyhoedd yn weithredol mewn perthynas â cheisiadau a53.

2.6 Pwy sydd ag awdurdod i gael mynediad at dir o dan awdurdodiad a53 a phwy yw ‘unigolion awdurdodedig’?

Os caiff ei roi, bydd yr awdurdodiad a53 yn awdurdodi’r ‘unigolion awdurdodedig’ i gael mynediad at dir. Fel arfer, caiff yr unigolion awdurdodedig eu diffinio yn adran ‘Termau a Diffiniadau’ yr awdurdodiad a53. Unigolion awdurdodedig yn unig sy’n cael mynd at y tir, a rhaid iddynt gydymffurfio â thelerau’r awdurdodiad a’i amodau.

2.7 Pwy sy’n penderfynu ar yr awdurdodiad a53?

Trwy swyddogaethau a ddirprwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, yr Arolygiaeth sy’n penderfynu ar geisiadau am awdurdodiad i gael mynediad at dir preifat o dan a53 DC2008.

2.8 Pa fynediad y gellir ei gynnwys mewn awdurdodiad?

Gall unigolyn wneud cais am awdurdodiad gan yr Arolygiaeth am yr hawl i gael mynediad at dir y mae trydydd parti’n berchen arno, er mwyn cynnal arolygon a mesur lefelau a/neu er mwyn hwyluso cydymffurfio â darpariaethau statudol neu weithredu’r Gyfarwyddeb AEA neu’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, o dan a53 Deddf Cynllunio 2008. Gallai hyn gynnwys y pŵer i chwilio a thyllu er mwyn canfod natur yr isbridd neu bresenoldeb mwynau neu sylweddau eraill ynddo a/neu gymryd, a phrosesu, samplau o unrhyw un o’r canlynol a ganfyddir ar y tir, yn y tir neu dros y tir –

  1. dŵr,
  2. aer,
  3. pridd neu greigiau,
  4. (ch) ei blanhigion,
  5. ysgarthiadau corfforol, neu gyrff meirw, creaduriaid nad ydynt yn ddynol, neu
  6. (dd) unrhyw beth difywyd sy’n bresennol o ganlyniad i weithred dyn.

2.9 Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i brosesu cais am awdurdodiad a53?

Mae ein nodyn cyngor yn esbonio nad oes amserlen statudol ragnodedig y mae’n rhaid i’r Arolygiaeth ei dilyn wrth benderfynu ar y cais am awdurdodiad. Fodd bynnag, mae profiad hyd yn hyn yn dangos ei bod yn cymryd sawl mis i benderfynu ar geisiadau am awdurdodiad a53, o’r dyddiad y mae’r cais/ceisiadau am awdurdodiad yn cyrraedd. Canllaw yn unig yw’r raddfa amser hon ac mae’n dibynnu ar gymhlethdod a nifer y ceisiadau am awdurdodiad, digonolrwydd y wybodaeth gychwynnol a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd a53, ac unrhyw faterion a godwyd mewn ymatebion gan unigolion sydd â buddiant yn y tir. Bydd angen i ymgeiswyr a53 fod yn ymwybodol o’r amserlen ddisgwyliedig hon a’r effaith bosibl y gallai ei chael ar eu rhaglen gyffredinol.

2.10 A fydd awdurdodiad yn cael ei roi’n awtomatig ar ôl cyfnod penodol yn dilyn cyflwyno cais am awdurdodiad a53?

Na, nid fydd awdurdodiad yn cael ei roi’n awtomatig ar ôl cyfnod penodol yn dilyn cyflwyno cais am awdurdodiad.

2.11 Am ba mor hir y mae awdurdodiad a53 yn para?

Yr Ymgeisydd a53 fydd yn gyfrifol am amlinellu natur hyd y mynediad y gofynnir amdano a’r rhesymau drosto. Bydd yr Arolygiaeth yn ystyried y wybodaeth hon ac yn penderfynu ar yr hyd priodol ar gyfer unrhyw awdurdodiad a53 a roddir ar ôl pwyso a mesur yr holl dystiolaeth.

Yn nodweddiadol, bydd awdurdodiad a53 wedi’i gyfyngu i flwyddyn o hyd. Fel arfer, bydd derbyn cais am ganiatâd datblygu yn dirymu’r hawliau a53.

2.12 A oes hawl gan y partïon y mae awdurdodiad a53 yn effeithio ar eu tir i gael iawndal, a beth fydd yn digwydd ar ôl i’r ‘unigolion awdurdodedig’ gwblhau’r gweithgareddau awdurdodedig?

Yn rhan o’r penderfyniad, bydd yr Arolygiaeth yn ystyried unrhyw ymyrraeth â’r tir dan sylw, fel y bo’n briodol. Mae DC2008 (a53(7)) yn darparu ar gyfer adfer iawndal lle y gwneir difrod i dir neu eiddo o ganlyniad i arfer hawliau mynediad neu wrth gynnal arolwg. Nid yw’n ofynnol i’r Arolygiaeth ystyried materion yn ymwneud ag iawndal sy’n daladwy, ac nid yw’n briodol iddi wneud hynny. Dylai unrhyw gwestiynau yn ymwneud ag iawndal y mae anghydfod yn ei gylch gael eu penderfynu gan yr uwch dribiwnlys o dan a58(6) DC2008.

Mae’r Arolygiaeth yn disgwyl i ymgeiswyr a53, yn rhan o’r amodau a gynigir ganddynt, gynnwys darpariaethau ar gyfer unioni unrhyw ddifrod a wneir er boddhad rhesymol yr unigolyn/unigolion yr effeithir arno/arnynt. Os na chynigir y cyfryw amod (neu os cynigir fersiwn anaddas ohono), gall yr Arolygiaeth bennu amodau ychwanegol neu amodau wedi’u haileirio os ystyrir eu bod yn briodol.

2.13 A oes hawl gyfreithiol i herio unrhyw benderfyniad a53?

Oes. Mae cyfle i herio penderfyniad a53. Bu rhai penderfyniadau a53 blaenorol yn destun adolygiad barnwrol. Bydd yr Arolygiaeth bob amser yn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu hategu gan argymhelliad cadarn wedi’i seilio ar ‘wybodaeth ddigonol’, fel yr amlinellir yn NC5.

3. Gwneud sylwadau ar gais am awdurdodiad a53; awdurdodiad a53; neu’r broses awdurdodi

3.1 Fel aelod o’r cyhoedd, sut gallaf wneud sylwadau ar gais am awdurdodiad a53, yr awdurdodiad neu unrhyw ran o’r broses?

I bob diben, mae’r broses a53 yn broses drafod breifat yn ymwneud â mynediad at dir, sy’n cael ei chynnal rhwng yr Ymgeisydd a53, y tirfeddiannwr/tirfeddianwyr ac unrhyw unigolion sydd â buddiant yn y tir.

Nid oes modd i’r cyhoedd gymryd rhan yn y broses, ac mae gohebiaeth gan y cyhoedd yn annhebygol o fod yn berthnasol i’r Arolygiaeth wrth iddi benderfynu ar y cais.

Nid yw hyn yn atal aelod o’r cyhoedd rhag cyflwyno sylwadau ar gais am ganiatâd datblygu i’r Arolygiaeth ar yr adeg briodol (gweler Nodyn Cyngor 8.2 yr Arolygiaeth: Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad).

4. Yr hyn y mae awdurdodiad a53 yn ei olygu ar gyfer statws datblygiad arfaethedig

4.1 A yw awdurdodiad a53 yn pennu p’un a yw Datblygiad Arfaethedig yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol?

Nad ydy. Nid yw rhoi awdurdodiad o dan a53 yn golygu bod yr Arolygiaeth wedi penderfynu bod y Datblygiad Arfaethedig yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP). Fel arfer, mae’r cwestiwn o ran p’un a yw Datblygiad Arfaethedig yn NSIP ai peidio yn cael ei ystyried adeg ei dderbyn – sef yr adeg ffurfiol pan fydd cais am DCO yn cael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol.

4.2 A yw awdurdodiad a53 yn pennu p’un a fydd caniatâd datblygu yn cael ei roi ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig?

Nac ydy. Nid yw awdurdodiad o dan a53 yn golygu y bydd caniatâd datblygu yn ei cael ei roi ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig. Gall caniatâd datblygu gael ei roi gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol dim ond ar ôl i gais am ganiatâd datblygu gael ei dderbyn a’i archwilio.

4.3 A yw awdurdodiad a53 yn golygu bod yr Arolygiaeth yn cefnogi Datblygiad Arfaethedig?

Nad ydy. Y cyfan y mae awdurdodiad a53 yn ei olygu yw bod yr Arolygiaeth o’r farn bod Ymgeisydd a53 wedi bodloni gofynion a53 DC2008.

Yn yr un modd ag unrhyw Ddatblygiad Arfaethedig sy’n cael ei gofrestru â’r Arolygiaeth, ni fydd gan yr Arolygiaeth unrhyw farn ynghylch rhinweddau Datblygiad Arfaethedig nes i’r broses archwilio gael ei chwblhau a’r Awdurdod Archwilio wneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol.

4.4 A yw awdurdodiad a53 yn golygu bod yr Arolygiaeth o’r farn bod Datblygiad Arfaethedig yn hyfyw yn ariannol?

Nac ydy. Bydd pob cais am awdurdodiad i gael mynediad at dir o dan a53 DC2008 yn cael ei ystyried a’i benderfynu yn unol â’r ddeddfwriaeth.

Bydd unrhyw gais dilynol am ganiatâd datblygu’n cael ei ystyried i’w dderbyn yn erbyn y profion statudol yn a55 DC2008. Mae Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr am ganiatâd datblygu gyflwyno Datganiad Ariannu, pe byddai’r DCO arfaethedig yn awdurdodi caffael tir yn orfodol, sy’n dangos sut y bwriedir ariannu’r Caffaeliad Gorfodol. Ar yr un pryd, mae canllawiau’r DCLG, sef ‘Deddf Cynllunio 2008: Canllawiau yn ymwneud â gweithdrefnau ar gyfer caffael tir yn orfodol’, yn datgan y dylai’r Datganiad Ariannu
“ddangos bod digon o gyllid yn debygol o fod ar gael i alluogi’r Caffael Gorfodol o fewn y cyfnod statudol ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud, a bod y goblygiadau o ran adnoddau o ganlyniad i gaffaeliad posibl yn dilyn hysbysiad malltod wedi cael eu hystyried.”

Os bydd cais am ganiatâd datblygu yn cael ei dderbyn i’w archwilio, bydd materion ariannu yn cael eu harchwilio gan yr Awdurdod Archwilio a benodir.

5. Pwerau gorfodi a53

5.1 Beth fydd yn digwydd os bydd amodau awdurdodiad a53 yn cael eu torri?

Mae’r awdurdodiad a53 yn debygol o gynnwys amodau penodol yn ymwneud â thorri’r awdurdodiad. Bydd yr amodau’n amlygu beth fyddai’n digwydd pe byddai’r amodau’n cael eu torri.

5.2 Pwy sy’n gorfodi’r awdurdodiad a53, fel arfer?

Os bydd awdurdodiad yn cael ei roi o dan a53 DC2008, gellir ei arfer gan yr unigolyn neu’r unigolion y mae’n rhoi awdurdod iddo/iddynt fynd at y tir, at y dibenion sydd wedi’u nodi ynddo, cyhyd â bod yr unigolyn hwnnw neu’r unigolion hynny yn cydymffurfio ag unrhyw amodau y mae’n ddarostyngedig iddynt.

Pe byddau perchennog neu feddiannwr y tir hwnnw o’r farn y methwyd i gydymffurfio ag unrhyw amodau tebyg, neu os nad yw’r unigolyn neu’r unigolion sy’n honni arfer yr awdurdod yn meddu ar yr awdurdod i wneud hynny, byddai angen i’r perchennog neu’r meddiannwr geisio ei gyngor / chyngor cyfreithiol ei hun ynghylch pa gamau y gallai eu cymryd mewn perthynas â’r materion hyn. Nid yw’r Arolygiaeth yn rhoi cyngor cyfreithiol mewn perthynas â’r materion hyn.

5.3 Fel aelod o’r cyhoedd, os sylwaf fod Ymgeisydd a53 yn torri telerau’r awdurdodiad a53, sut gallaf gwyno?

Mae’r awdurdodiad a53 yn galluogi’r unigolyn awdurdodedig i fynd ar dir yn unol â’r awdurdodiad. Mae cydymffurfio â’r awdurdodiad yn fater i’r tirfeddiannwr/tirfeddianwyr neu’r unigolyn/unigolion sydd â buddiant yn y tir.

Gallwch godi’ch pryderon yn uniongyrchol gyda’r unigolyn/unigolion awdurdodedig, y tirfeddiannwr/tirfeddianwyr neu’r unigolyn/unigolion â buddiant yn y tir, os ydych yn dewis gwneud hynny, ond nid oes rhwymedigaeth arnynt i ymateb i chi.

6. Pwerau ar wahân i a53 i gael mynediad at dir

6.1 A all Ymgeisydd am ganiatâd datblygu ddefnyddio a172 Deddf Tai a Chynllunio 2016 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio Cymdogaeth 2017) yn lle a52 DC2008 i gael mynediad at dir?

Yn achos DCO arfaethedig, y bwriad polisi yw y dylid defnyddio’r pŵer mynediad yn a52 Deddf Cynllunio 2008.

Lle nad yw pŵer mynediad penodol presennol wedi cael ei gyfyngu o ran cwmpas gan Atodlen 14 Deddf Tai a Chynllunio 2016, y bwriad polisi yw y dylai’r pŵer presennol hwn barhau i gael ei ddefnyddio yn yr un ffordd. Mae’r Arolygiaeth yn nodi’r egwyddor dehongli statudol sef, lle mae deddfiad cyffredinol yn ymdrin â sefyllfa y darperir yn benodol ar ei chyfer gan ddeddfiad arall a gynhwyswyd mewn Deddf gynharach, tybir y bwriedir i’r sefyllfa barhau i gael ei thrin gan y ddarpariaeth benodol yn hytrach na’r un cyffredinol ddiweddarach.

Felly, er bod y Bil Cynllunio Cymdogaeth yn diwygio’r diffiniad o “awdurdod caffael” yn a172 Deddf Tai a Chynllunio 2016 i ddileu’r cysylltiad â’r diffiniad o “brynu gorfodol” yn Neddf Caffael Tir 1981, yn achos DCO arfaethedig, y bwriad polisi yw y dylai’r pŵer mwy penodol yn a53 Deddf Cynllunio 2008 barhau i gael ei ddefnyddio.

7. Gofynion cyhoeddi a53

7.1 Pa wybodaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi am yr awdurdodiad a53?

Nid oes gofyniad statudol i gyhoeddi’r cais a53 a’r dogfennau sy’n gysylltiedig â’r cais.

O fis Mehefin 2017, yr awdurdodiad a53 a’r datganiad rhesymau sy’n esbonio’r penderfyniad awdurdodi yw’r unig ddogfennau a fydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Arolygiaeth fel mater o drefn.

Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

7.2 Pryd y bydd gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi am awdurdodiad a53 cyn penderfyniad?

Ni fyddwn yn cyhoeddi nac yn darparu gwybodaeth yn ymwneud â chais am awdurdodiad a53 hyd nes bydd cais o’r fath wedi’i benderfynu.

8. Hawliau dynol

8.0 Pa ystyriaeth sy’n cael ei rhoi i hawliau dynol?

Wrth benderfynu ar gais am awdurdodiad, mae CN5 yn amlygu bod rhaid i’r Arolygiaeth ystyried Erthygl 1 Protocol Cyntaf y Confensiwn Ewropeaidd, sy’n rhoi’r hawl i fwynhau eiddo’n heddychlon. Dylai unrhyw ymyrraeth â’r hawl hon fod yn gyfreithlon ac yn gymesur; gall ymyrryd â hawl unigolion i fwynhau eu heiddo’n heddychlon fod er budd y cyhoedd yn unig. Bydd yr Arolygiaeth yn ystyried, mewn perthynas â phob cais am awdurdodiad a53, p’un a fyddai awdurdodi mynediad at dir trydydd parti yn gyfreithlon ac yn gymesur.

9. Acronymau a byrfoddau

  • a53 Adran 53 Deddf Cynllunio 2008
  • a55 Adran 55 Deddf Cynllunio 2008
  • AEA Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol
  • CA Caffael Gorfodol
  • CCau Cwestiynau cyffredin
  • CPO Gorchymyn Prynu Gorfodol
  • DCLG Yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol
  • DCO Gorchymyn Caniatâd Datblygu
  • DC2008 Deddf Cynllunio 2008
  • NC5 Nodyn Cyngor 5
  • NSIP Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol