Trawsgrifiad fideo: Sut i gymryd rhan mewn Cyfarfod Rhagarweiniol

Mae’r fideo hwn yn esbonio beth i’w ddisgwyl mewn Cyfarfod Rhagarweiniol.

Mae Cyfarfod Rhagarweiniol yn cael ei gynnal ar ddechrau Archwiliad o Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Mae ceisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio i’w harchwilio.

I gymryd rhan mewn Cyfarfod Rhagarweiniol, dylech gofrestru’n Barti â Buddiant.

Gall Parti â Buddiant fod yn rhywun sydd â buddiant yn y tir y mae’r prosiect yn effeithio arno neu’n sefydliad statudol hefyd.

Mae’r Cyfarfod Rhagarweiniol yn gyfarfod gweithdrefnol sy’n ystyried sut bydd y cais yn cael ei archwilio, er mwyn gallu pennu amserlen addas ar gyfer yr Archwiliad.

Os ydych chi’n Barti â Buddiant, byddwch yn cael llythyr yn eich gwahodd i’r Cyfarfod Rhagarweiniol, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan hefyd.

Mae’n cynnwys agenda ar gyfer y cyfarfod ac amserlen ddrafft ar gyfer sut bydd yr Archwiliad yn mynd yn ei flaen.

Bydd Partïon â Buddiant yn cael eu llythyr o leiaf dair wythnos cyn y cyfarfod.

Yr arolygydd neu banel o hyd at bump o arolygwyr sy’n archwilio’r cais sy’n gyfrifol am y Cyfarfod Rhagarweiniol.

Yr enw ar yr Arolygydd neu’r Arolygwyr yw’r Awdurdod Archwilio.

Maent yn arwain y cyfarfod er mwyn sicrhau ei fod yn rhedeg yn rhwydd ac yn brydlon, gan roi cyfle teg i bawb ddweud eu dweud yn briodol.

Bydd yr Awdurdod Archwilio am glywed ystod eang o farnau, gan gynnwys beth yw’r prif faterion y mae angen iddynt eu hystyried wrth greu Amserlen yr Archwiliad.

Fodd bynnag, nid yw rhinweddau’r prosiect yn cael eu trafod yn y gwrandawiad hwn.

Mae nifer o bwyntiau y mae angen bod yn ymwybodol ohonynt.

Rydym yn cynnal cyfarfodydd mewn lleoliadau addas mor agos â phosibl at ardal leol y prosiect.

Er mwyn sicrhau y gallwn fodloni pawb, dylech roi gwybod i ni a fyddwch yn bresennol yn y cyfarfod cyn gynted â phosibl ar ôl cael y gwahoddiad.

Bydd y llythyr hwn yn rhoi manylion am sut i wneud hynny ac â phwy y dylech gysylltu.

Er bod y cyfarfod ar agor i bawb, bydd Partïon â Buddiant yn cael blaenoriaeth os yw nifer y lleoedd yn gyfyngedig.

Nid oes gan bobl nad ydynt yn Bartïon â Buddiant hawl i siarad yn y cyfarfod fel mater o drefn, ond gall yr Awdurdod Archwilio ganiatáu iddynt wneud hynny.

Bydd Cyfarfodydd Rhagarweiniol yn cael eu cynnal ar arddull theatr, fel arfer.

Os byddwch yn siarad, bydd gofyn i chi siarad i mewn i ficroffon.

Bydd copïau papur o’r dogfennau a gyflwynwyd gan y datblygwyr, fel cynlluniau safle neu wybodaeth amgylcheddol, ar gael i’w gweld.

Fel arfer, bydd aelodau staff yr Arolygiaeth Gynllunio wrth law i roi gwybod i chi ble i eistedd, a byddant yn fodlon ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Gallwch ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol neu recordio’r digwyddiadau, ond rhaid i chi wneud hynny mewn ffordd gyfrifol a rhoi ystyriaeth briodol i’r partïon eraill.

Gallai’r Awdurdod Archwilio ofyn i chi beidio â gwneud hynny os yw’n tynnu gormod o sylw.

Ni all unrhyw barti ddibynnu ar eitemau a recordiwyd yn unigol fel tystiolaeth na’u defnyddio mewn cyflwyniadau.

Mae nodyn ysgrifenedig a recordiad sain o’r cyfarfod yn cael eu cadw, a byddant ar gael i’w lawrlwytho ar ein gwefan.

Ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol, bydd Amserlen yr Archwiliad yn cael ei hanfon at Bartïon â Buddiant a bydd hefyd ar gael ar ein gwefan.

Mae diwedd y Cyfarfod Rhagarweiniol yn nodi dechrau cam yr Archwiliad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan, sy’n cynnwys llawer o nodiadau cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am y broses ymgeisio.

Fel arall, gall ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid roi cyngor dros y ffôn ar 0303 444 5000 neu drwy’r e-bost yn [email protected].