Piblinell Carbon Deuocsid HyNet North West

Ffurflen Cofrestru a Sylwadau Perthnasol


* Gwybodaeth anghenrheidiol
Piblinell Carbon Deuocsid HyNet
Cyfeirnod yr Arolygiaeth Gynllunio: EN070007

Ynglŷn â’r ffurflen hon

Yn y ffurflen hon, mae gan y geiriau mewn llythrennau italig ystyr benodol ym mhroses Deddf Cynllunio 2008, sydd wedi’u hesbonio yn y Rhestr termau atodedig.

Trwy lenwi’r ffurflen hon, rydych yn cofrestru i ddod yn Barti â Buddiant i gymryd rhan yn yr Archwiliad o’r cais uchod ar gyfer caniatâd datblygu, a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio (ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol). Gallwch ddod yn Barti â Buddiant os byddwch yn gwneud Sylwadau Perthnasol; fodd bynnag, bydd eich Sylwadau ond yn berthnasol os byddwch yn eu gwneud yn brydlon ac yn ateb yr holl feysydd gorfodol ar y ffurflen hon. Am ragor o wybodaeth, darllenwch Nodyn Cyngor 8.2: Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn derbyn cofrestriadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch naill ai gyflwyno eich atebion yn Gymraeg ar y ffurflen isod neu, fel arall, gallwch archebu copi papur o’r ffurflen wedi’i chyfieithu gan ein Desg gymorth.

Wrth lenwi’r ffurflen hon, dylech gyfeirio at y nodiadau cyfatebol ar gyfer pob adran.

Diogelu data

Bydd y manylion sy’n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan wedi’u cyfyngu i’ch enw a thestun eich Sylwadau. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd sy’n esbonio sut byddwn yn cadw ac yn defnyddio eich data.

  1. Amdanoch chi ac unrhyw un rydych yn ei gynrychioli

    Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio orau pam eich bod yn llenwi'r ffurflen hon *Dewiswch yr opsiwn sy’n disgrifio orau pam rydych chi’n llenwi’r ffurflen hon a rhowch y cyfeiriad perthnasol. Dim ond un unigolyn neu sefydliad sy’n gallu dod yn barti â buddiant fesul ffurflen. Mae angen i bob Parti â Buddiant gofrestru ar ei ffurflen ei hun.



    Manylion Personol

    Cyfeiriad

    Ebost

    Manylion sefydliad

    Cyfeiriad

    Manylion cysylltu yr unigolyn neu sefydliad rydych yn ei gynrychioli

    Cyfeiriad

    Manylion cysylltu asiant neu gynrychiolydd (Bydd y manylion hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gohebiaeth)

    Cyfeiriad

    Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ceisio cyfathrebu â phobl drwy’r e-bost, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, oherwydd bod cyfathrebu electronig yn well i’r amgylchedd ac yn fwy cost effeithiol i’r Arolygiaeth Gynllunio fel asiantaeth y llywodraeth, o ystyried nifer ac amlder y llythyron y mae angen iddi eu hanfon at Bartïon â Buddiant yn ystod Archwiliad. Felly, os rhowch gyfeiriad e-bost, byddwn yn defnyddio hwnnw. Gallwch newid eich meddwl yn ddiweddarach, cyn belled ag y byddwch yn rhoi saith niwrnod o rybudd i ni, naill ai’n ysgrifenedig neu drwy’r e-bost.
  2. Eich sylwadau


    Mae proses Deddf Cynllunio 2008 yn broses archwilio ysgrifenedig, yn bennaf, ac os byddwch yn cofrestru’n Barti â Buddiant, byddwch yn cael cyfle i wneud Sylwadau Ysgrifenedig ar y cais pan fydd yr Archwiliad yn dechrau.

    Ar y ffurflen hon, rhaid i’ch Sylwadau gynnwys amlinelliad o’r prif sylwadau rydych yn bwriadu eu gwneud mewn perthynas â’r cais. Ni fydd gennych hawl i wneud sylwadau’n ddiweddarach heb roi amlinelliad o’r pwyntiau rydych yn bwriadu eu cyflwyno yn ystod y cam hwn.

    Sylwchna ddylai eich Sylwadau gynnwys unrhyw ddeunydd:

    • blinderus neu ddisylwedd;
    • sy’n ymwneud ag iawndal ar gyfer caffael tir yn orfodol neu unrhyw Fuddiant mewn tir neu hawl drosto; neu
    • yn ymwneud â theilyngdod polisi sydd wedi’i amlinellu mewn Datganiad Polisi Cenedlaethol.

    Bydd y wybodaeth rydych yn ei chynnwys yn yr adran ‘Eich Sylwadau’ ar y ffurflen hon yn cael ei defnyddio gan yr Awdurdod Archwilio i gynnal ei Asesiad Cyntaf o'r Prif Faterion ac i benderfynu ar y ffordd orau i archwilio’r cais.

    Yma, mae’n rhaid i chi amlinellu’r prif bwyntiau rydych yn bwriadu eu gwneud mewn perthynas â’r cais. Bydd peidio â darparu’r wybodaeth hon yn golygu na fyddwn yn gallu eich cofrestru’n Barti â Buddiant. Dylech geisio cadw’r adran hon i ddim mwy na 500 gair.

    Eich Sylwadau

Mae angen y 'captcha' (isod) i sicrhau cyflwyniadau dilys ac unigol. Os nad yw’r captcha yn ymddangos isod, cliciwch

Er mwyn llenwi’r ffurflen hon, rhaid i chi ei gwirio i sicrhau eich bod wedi mewnbynnu’r holl wybodaeth yn gywir cyn y gellir ei hanfon at yr Arolygiaeth Gynllunio. Cliciwch y botwm canlynol i wirio ac anfon y ffurflen.

Pan fydd eich ffurflen wedi’i hanfon, byddwch yn cael neges e-bost i gadarnhau hynny. Os na fyddwch yn cael neges e-bost, edrychwch yn eich ffolder Post Sothach/Sbam neu cysylltwch â’r Arolygiaeth Gynllunio gan roi eich enw, eich cod post ac enw’r prosiect.