Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/11/2018
Gan John Griffith

Sylw

Fel aelod etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn sy'n cynrychioli Ward Talybolion, sef ardal â effeithwyd yn sylweddol o'r datblygiad yma, hoffwn gofrestru fel partiâ diddordeb mewn perthynas â'r Archwiliad o gais Gorchymyn Caniatâd Datblygu Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru.
Oherwydd y fath bwried, r'wyf yn gwrthwynebu cais y Grid Cenedlaethol i godi ail llinellau pwêr ar beilonau ar draws harddwch Ynys Môn. Teimlaf bydd hyn yn cael effaith andwyol sylweddol ar amwynderau gweledol, lles trigolion a chymunedau ac hefyd buddianau busnes, yn enwedig rhai twristiaeth sydd o bwysigrwydd hirdymor i economi yr ynys. Credaf yr unig ateb derbyniol yw i osod y llinell o'r Wylfa Newydd i'r tir mawr o dan y ddaear. Er bydd hyn yn arwain at angyfleuster ac anhwyldod tymor byr i bawb ar yr Ynys a'i ymwelwyr, mae'r budd hirdymor o dirlun yr Ynys heb llinell hyll o beilonau ar ei thraws yn pell orbwyso hyn.