Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 26/11/2018
Gan Bethan Jones

Sylw

Rwyf yn gwrthwynebu’n chwyrn i leoli mwy o beilonau ar Ynys Mon. Mae ymgyrch y Grid Cenedlaethol wedi bod yn un ochrog o’r cychwyn cyntaf! Wrth ‘ymgynghori’ gyda’r cyhoedd roeddynt yn arwain y cyhoedd i’w ffordd nhw o feddwl. Nid oes ystyriaeth wedi ei wneud o ran effaith ar yr amgylchedd weledol! Mae harddwch naturiol yr Ynys yn cael ei ddyfetha’n llwyr wrth groesi’r bont a gweld rhes o beilonau yn ein gwynebu! Mae effaith peilonau yn acho o bryder mawr i ni yn Llanfairpwll gan fod llawer o drigolion sy’n byw o dan y peilonau ar y stryd fawr wedi cael canser . Mae’n rhaid cael ymchwiluad annibynnol trylwyr i’r effaith ar iechyd. Rydym yn gwrthwynebu’n chwyrn ond yn amlwg does neb yn gwrando! Mae son fod cost enfawr ynghlwm i roi y ceblau dan y ddaear. Costau ychwanegol ir Grid? Costau ychwanegol i drigolion Ynys Mon? Yntau cost ychwanegol i ddefnyddwyr yn Lloegr?! Hoffwn wybod beth fydd y gost y hwanegol hyn a beth fydd y canlyniad ar y defnyddwyr!