Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.
Cysylltiad Gogledd Cymru
Gan Anwen Williams
Sylw
Byddai'n andwyol i olygfeydd o gefn gwlad ac mewn AHNA ac rwyf yn bendant y byddai'r effaith ar dwristiaeth, amaethyddiaeth a gwerth eiddo yn hollol afresymol.
Yn fy marn i, er y byddai y Grid yn anghytuno, mae peilonau yn achosi gwaeledd. Rwy'n benmdant fod yna risgiau uchel i iechyd y boblogaeth oddi wrth beilonau. Mae'r risg yn llawer iawn yn rhy fawr. Byddai ei gosod o dan y ddaear neu o dan y dwr yn sicrhau na fyddai'r risg honno'n bodoli.
Credaf hefyd fod yr ymgynghoriad wedi bod yn annheg ac annemocrataidd; pa fath o ymgyngoriad sydd yn anwybyddu barn pob corff ac unigolyn ar y sir hon?
Ni wnaethpwyd asesiad o effaith cronnus gan y Grid Cenedlaethol ac mae hynny'n gwbl afresymol.
”