Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 20/11/2018
Gan Gareth Cemlyn Jones

Sylw

Fel Peiriannydd Siartredig, dyma fy sylwadau a phryderon:

• Anghyfiawnder cymdeithasol o anwybyddu adborth a buddiannau poblogaeth Môn drwy barhau i gynllunio cynllun peilonau sy’n gorfodi trigolion difreintiedig Môn i sybsideiddio arbedion/elw y Grid a defnyddwyr trydan gweddill y DG

• Diffyg manylder yng nglyn a’r cynlluniau i groesi’r Fenai sydd yn hollol allweddol i’r datblygiad. Os mai twnel dan y Fenai yw’r dewis terfynol nid oes unrhyw wybodaeth ar drafnidiaeth yn ystod y cyfnod adeiladu na sut i waredu y spwriel o ganlyniad i’r gwaith

• Fel ardal sydd yn ddibynnol ar Dwristiaeth, yn fwy nag unrhyw ardal arall yn y DG, mae yn amlwg bydd y peilonau ychwanegol arafethedig yn niweidiol iawn i'r diwydiant
yma gan ymharu ar olygfeydd ac Ardaloedd o Harddwch Arbennig Naturiol.

• Dim ystyriaeth ar effaith y prosiect ar werth tir ac asedau trigolion yr Ynys

• Diffyg ystyriaeth o effaith iechyd tymor hir o beilonau yn gyfagos a chartrefi gan gynnwys EMF ac yn y blaen. Ar egwyddor, dylir polisi rhagofal gael ei ddefnyddio os oes unrhyw ansicrwydd yng nglyn a ffactorau a gall gael effaith dwys ar genedlaethau y dyfodol

• Dim ystyriaeth o gydlunio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sydd yn holl bwysig gyda’r bwriad, gan ystyried:
-edrych ar bethau yn yr hirdymor yn ogystal â chanolbwyntio ar y sefyllfa ar hyn o
bryd
- cymryd camau i geisio rhwystro problemau rhag gwaethygu - neu hyd yn oed eu
hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Mae yn amlwg bod hyn yn cynnwys mabwysiadu polisi rhagofal yn hytrach na symyd ymlaen gyda syniadau sydd yn ddi ddychymyg ac yn deillio o oes llai oleuedig a gwybodus.

• Mae tecnoleg Trosgwyddo Trydan wedi symyd ymlaen gyda opsiynau fel tanddaeru a thanfor ar gael. Er bod hyn yn fwy gostus i'r defnyddwyr yn gyffredinol mae rhaid gofyn os yw yn deg i drigolion Ynys Mon sybsideiddio ardaloedd Lloegr ar drail asedau ein hunain

• Mae’r Grid yn defnyddio presenoldeb un llinell o beilonau i gyfiawnhau un arall. Gan fod posibilrwydd tymor hir o ystyried adweithyddion bellach ar safle Wylfa mae yna wir debygrwydd o’r ail res fod yn gyfiawnhad am drydedd neu bedwerydd res yn y dyfodol

Mae gennyf bryder hefyd am y diffyg sylw i’r broses democratiaeth gyda ymgynghoriadau hollol gamarweiniol ac annidwyll. Y canlyniad yw bod barn pob aelod etholedig y Sir gan gynnwys Cynghorwyr Sir, ein Aelod Seneddol, Aelod y Cynulliad, yn ogystal a Chyngorau Bro a Chymuned a thrigolion Môn, wedi eu hanwybyddu yn llwyr.