Beth fydd yn digwydd nesaf
Gwnaed penderfyniad ar y cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer ar ac mae wedi’i gyhoeddi erbyn hyn.
Diffinnir y cyfnod ar gyfer her gyfreithiol yn a118 Deddf Cynllunio 2008. Ceir rhagor o wybodaeth am herio cyfreithiol yn y llythyr a anfonir at bob Parti â Buddiant ynghyd â phenderfyniad a datganiad o resymau’r Ysgrifennydd Gwladol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y broses, anfonwch neges e-bost at yr Arolygiaeth Gynllunio:[email protected] neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0303 444 5000.
Llinell amser (37 Eitemau)

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi cyhoeddi Gorchymyn Cywiro. Am wybodaeth bellach, cyfeiriwch at y ddogfennaeth benderfynu ganlynol:

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi rhoi caniatâd datblygu ar gyfer y cais hwn. Am wybodaeth bellach, cyfeiriwch at y ddogfennaeth benderfynu ganlynol:
Llythyr Penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol
Gorchymyn Caniatâd Datblygu fel y’i gwnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol
Adroddiad Argymhelliad
Atodiadau Adroddiad Argymhelliad
Rhybudd 23 Rheoliad
Hysbysiad o’r Llythyr Penderfyniad


Ar 26 Gorffennaf 2019 ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol at yr Ymgeisydd a Llywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’r prosiect. Disgwylir yr ymatebion erbyn dydd Gwener 9 Awst 2019.


Daeth yr Archwiliad i ben am 23.59 ar 10 Ebrill 2019.

Mae’r Ymgeisydd wedi cyflwyno Cytundeb Adran 106 wedi’i diweddaru, sydd wedi’i lofnodi gan APL a CCS. Mae’r Awdurdod Archwilio wedi arfer ei ddisgresiwn i dderbyn y ddogfen i’r Archwiliad.


Mae’r Awdurdod Archwilio wedi arfer ei ddisgresiwn i dderbyn cyflwyniad Terfynol 6 hwyr gan National Grid. Cyhoeddwyd y llythyr a’i ychwanegu at y Llyfrgell Archwiliad.

Daethpwyd â’n sylw bod anghysondeb rhwng y llythyr esboniadol dyddiedig 29 Ionawr 2019 a’r amserlen ddiwygiedig a nodir yn Atodiad A. Er mwyn osgoi amheuaeth, y dyddiadau cau yw’r rhai a nodir yn Atodiad A. Ymddiheuriadau am unrhyw ddryswch a achosir.

Cyhoeddwyd Cwestiynau Ysgrifenedig Pellach yr Awdurdod Archwilio a diweddarwyd y Llyfrgell Archwiliad.

Mae’r recordiadau sain ar gyfer gwrandawiadau Rhagfyr 2018 wedi’u cyhoeddi ac mae’r Llyfrgell Archwiliad wedi’i ddiweddaru.

Daeth ein sylw at y ffaith bod anghysondeb rhwng amseriad Gwrandawiadau Materion Penodol ar ddydd Iau 13 Rhagfyr 2018. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth bydd y Gwrandawiad Mater Penodol ar y Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft yn digwydd am 10.00 a bydd y Gwrandawiad Mater Penodol ar Faterion Amgylcheddol yn cael ei gynnal am 14.00.

Adolygwyd yr Agenda Gwrandawiad Llawr Agored i gynnwys yr amser cychwyn cywir (19:00). Ymddiheuriadau am unrhyw ddryswch a achosir.

Cyhoeddwyd llythyr hysbysiad o wrandawiadau ac Ymweliad Safle â Chwmni, Ddogfen Sgrinio Trawsffiniol a chyflwyniad ychwanegol. Mae Llyfrgell yr Archwiliad hefyd wedi’i ddiweddaru.

Mae’r amserlen arholiadau (llythyr rheol 8 llythyr) wedi ei anfon at bartïon â buddiant
Penderfyniad gweithdrefnol yn dilyn y Cyfarfod Rhagarweiniol

Mae’r cofnodion ar gyfer y Cyfarfod Rhagarweiniol a’r Gwrandawiad Mater Penodol Rhif 1 wedi’u cyhoeddi.



Mae hysbysiad o’r Cyfarfod Rhagarweiniol (llythyr Rheol 6) wedi ei ddanfon i gyfranogion Darllenwch y llythyr
Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys yr Amserlen Archwilio ddrafft a’r Asesiad Cychwynnol o Brif Faterion.





Derbyniwyd y cais hwn gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar 25 Mai 2018.
Bydd dogfennau’r cais ar gael os derbynnir y cais i’w harchwilio.
Mater i’r ymgeisydd benderfynu a ellir cyhoeddi dogfennau cais ai peidio ar ôl eu cyflwyno (gweler cymorth MHCLG, yn Saesneg unig).

- Disgwylir cais gan yr ymgeisydd
- Cais wedi cyraedd yr Arolygiaeth Gynllunio