Mae’r fideo hwn yn esbonio beth i’w ddisgwyl mewn Gwrandawiad yn ymwneud â Materion Penodol sy’n cael ei gynnal yn ystod Archwiliad o Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio i’w archwilio.
Er bod yr Archwiliad yn broses ysgrifenedig yn bennaf, gall yr Awdurdod Archwilio benderfynu cynnal Gwrandawiadau yn ymwneud â Materion Penodol.
Diben y gwrandawiadau hyn yw i’r Awdurdod Archwilio ofyn cwestiynau ac egluro tystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod Archwiliad drwy holi’n uniongyrchol.
I gymryd rhan mewn Gwrandawiad yn ymwneud â Materion Penodol, dylech fod wedi cofrestru’n Barti â Buddiant.
Gall Parti â Buddiant fod yn rhywun sydd â buddiant mewn tir y mae’r prosiect yn effeithio arno neu’n sefydliad statudol hefyd.
Yr arolygydd neu’r panel o arolygwyr sy’n archwilio’r cais sy’n gyfrifol am y gwrandawiadau.
Yr enw ar yr arolygydd neu’r arolygwyr yw’r Awdurdod Archwilio.
Maent yn arwain y gwrandawiad er mwyn sicrhau ei fod yn rhedeg yn rhwydd ac yn brydlon, ac yn rhoi cyfle teg i bawb leisio eu barn.
Yr Awdurdod Archwilio fydd yn penderfynu pa bynciau fydd yn cael eu trafod a phwy fydd yn cael eu gwahodd yn benodol i’w trafod.
Fel arfer, bydd y pynciau ac enwau’r partïon y gofynnwyd iddynt siarad wedi’u hamlinellu mewn agenda a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan tuag wythnos cyn y gwrandawiad.
Hyd yn oed os nad ydych ar restr y rhai a wahoddwyd, gallwch fynychu’r gwrandawiad o hyd.
Efallai yr hoffai’r Awdurdod Archwilio glywed gan Bartïon â Buddiant eraill yn ystod y cyfarfod.
Fel arfer, mae’r gwrandawiadau hyn yn cael eu cynnal ar ffurf bord gron, gyda’r ymgeisydd a’r mynychwyr a wahoddwyd yn eistedd wrth y bwrdd ochr yn ochr â’r Awdurdod Archwilio.
Yn gyffredinol, bydd y cyhoedd yn eistedd y tu ôl i’r ford gron i ffurfio cynulleidfa.
Bydd unigolion ond yn cael eu caniatáu i groesholi unigolyn sy’n rhoi tystiolaeth os bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu bod hynny’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod sylwadau’n cael eu profi’n ddigonol, neu fod unigolyn wedi cael cyfle teg i gyflwyno ei achos.
Mae partïon sydd am gyflwyno a dibynnu ar dystiolaeth arbenigol yn cael eu cynghori i sicrhau bod y cynghorwyr arbenigol yn bresennol ar bob diwrnod o’r gwrandawiadau, er mwyn rhoi tystiolaeth a chael eu holi.
Mae nifer o bwyntiau cyffredinol sy’n berthnasol i’r gwrandawiadau hyn.
Ein nod yw cynnal gwrandawiadau mewn lleoliadau yn ardal y prosiect.
Er mwyn sicrhau bod gennym leoliad addas, byddwn yn gofyn i chi roi gwybod i ni a fyddwch yn bresennol neu beidio.
Bydd manylion am sut i wneud hyn yn cael eu hanfon atoch os ydych yn Barti â Buddiant, a byddant yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan hefyd.
Bydd dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiadau’n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan o leiaf 21 diwrnod cyn y digwyddiad.
Bydd hysbysiadau’n cael eu rhoi yn ardal y cynnig a’u cyhoeddi mewn papurau newydd lleol.
Er bod gwrandawiadau ar agor i bawb, bydd Partïon â Buddiant yn cael blaenoriaeth i siarad.
Nid oes gan bobl nad ydynt yn Bartïon â Buddiant hawl i siarad yn y gwrandawiad fel mater o drefn, ond gall yr Awdurdod Archwilio ganiatáu iddynt wneud hynny.
Fel arfer, bydd aelodau staff yr Arolygiaeth Gynllunio wrth law i roi gwybod i chi ble i eistedd, a byddant yn fodlon ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Gallwch ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol neu recordio’r digwyddiadau, ond rhaid i chi wneud hynny mewn ffordd gyfrifol a rhoi ystyriaeth briodol i’r partïon eraill.
Gallai’r Awdurdod Archwilio ofyn i chi beidio â gwneud hynny os yw’n tynnu gormod o sylw.
Ni all unrhyw barti ddibynnu ar eitemau a recordiwyd yn unigol fel tystiolaeth na’u defnyddio mewn cyflwyniadau.
Mae recordiad sain yn cael ei wneud o bob gwrandawiad, a bydd ar gael i’w lawrlwytho ar ein gwefan.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys dogfennau cais y prosiect, ynghyd â llawer o nodiadau cyngor defnyddiol a gwybodaeth am y broses archwilio.
Fel arall, gall ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid roi cyngor dros y ffôn ar 0303 444 5000 neu drwy’r e-bost yn [email protected].