Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.
Cysylltiad Gogledd Cymru
Gan Cyng H Huws
Sylw
2. Hoffwn gofrestru i ymateb i’r cais gan i mi fel cynghorydd bro fod yn dyst i holl gamau ‘ymgynghori’ NG a’u canfod yn wallus ac yn gamarweiniol i asesydd o UKGovtPINS.
3. Darperir esiampl fel adlewyrchiad o ba mor sinigaidd y bu’r cwmni wrth ymdrin â’r cyhoedd a chynrychiolwyr democrataidd Môn. Yn y cais dywedir: “The Stage 1 Consultation ran from the 3 October 2012 to the 18 January 2013 and consulted on strategic options, the preferred strategic connection option and route corridor options.” Roeddwn yn bresennol yn y cyflwyniad i gynghorau cymuned a thref 9/10/2012 pan esboniwyd yr opsiynau strategol, gyda’r casgliad parod gan NG mai’r llwybr peilonau oedd yr opsiwn dewisol ar sail cost. Gwelir eu ffurflen adborth o 10/2012 sy’n adlewyrchu’r ffaith mai dewis llwybr nid opsiwn strategol oedd yr ymgynghoriad o’r cychwyn cyntaf. Ymateb unfrydol y cynghorwyr ar y noson, ar sail buddiannau pobl Môn, oedd bod cost o gebl tanfor yn ffracsiwn y pris iddynt o gymharu â’r colledion o ran effaith ar incwm i’r sector dwristaidd ac amaeth, ansawdd bywyd, iechyd, gwerth asedau, prisiau tai, ac adnoddau amgylcheddol. Ymatebodd yr Uwch Reolwr Prosiect, Martin Kinsey: “It’s right for Anglesey to put it into the sea” … “If I was living on Anglesey I’d want undersea cables as well.” Ond fe atgoffodd y cynghorwyr mai yn Llundain gwneir y penderfyniad, hyd yn oed os yw cynghorwyr, AS a AC lleol yn gwrthwynebu. Anwybyddodd NG y ffaith mai ymgynghoriad LLEOL dylai hwn fod.
4. Er defnyddio cost fel sail i’r penderfyniad dros beilonau, yn ystod y 3 ymgynghoriad, er gofyn o’r cychwyn cyntaf, ni chyflwynodd NG asesiad cost benodol i Fôn o’r effaith ar Amaeth, Dwristiaeth, Gwerth Eiddo. Felly nid oes sail i’r honiad: “The Options Appraisal process considers environmental, socio-economic, technical and cost issues associated with each option being appraised.” Dengys y dystiolaeth nad oedd y data’n bodoli pan ddaethpwyd i gasgliad am y peilonau ar sail cost.
5. Gofynnwn i’r arolygwyr edrych yn fanwl ar yr honiadau o ymgynghori’n gymunedol, gan mai barn y cyhoedd oedd mai ticio bocs heb ymateb i fewnbwn oedd y cwmni. Ee Deallwn nad oedd NG yn cofnodi sylwadau llafar yn yr ymgynghoriad, felly tybiwn na fyddwch yn gweld yr adborth llafar am blentyn a gafodd leukemia ger y peilonau, a’r cais am astudiaeth iechyd ar stryd lleol ger peilonau a enwir yn ‘Cancer Row’. Mewn digwyddiadau o’r fath dangoswyd anwybodaeth ryfeddol gan gynrychiolwyr NG, ee am natur yr AHNE, effaith posib toriad y trydan ar orsaf Wylfa, gwerth y diwydiant twristaidd i’r Ynys. Yn ogystal, gwnaethpwyd sylwadau amhriodol gan staff, megis byddai gwrthwynebwyr peilonau Môn yn gyfrifol am dlodi ynni'r DG. (Gan gofio mai Môn yw’r ardal fwyaf dibynnol ar incwm twristiaeth y DG (ONS), a’i fod yn un o ardaloedd tlotaf Ewrop, tra bod y NG yn un o fonopolïau cyfoethocach y byd.)
”