Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/11/2018
Gan Arwel Humphreys

Sylw

1. Nid oes unrhyw synnwyr mewn adeiladu peilonau arall gan fod yna ffordd arall dan y ddaear a than y mor. Mae hynny'n fwy costus yn y lle cyntaf, ond yn y tymor hir, mae yn mynd i fod yn gostus i gynnal a chadw peilonau. Ni fydd y gost hon yn bod ar gebl.
2. Mi fuasai mwy o beilonau yn effeithio ar dwristiaeth ar Ynys Mon, ac felly yn ddrwg i economi'r ynys.
3. Mi fuasai mwy o beilonau yn effeithio ar iechyd pobl Ynys Mon, ac felly yn gost ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd.
4. Mae'r Grid Cenedlaethol yn cydnabod na fuasai peilonau ychwanegol ar draws y Fenai yn dda i'r amgylchedd na harddwch naturiol, ond nid ydynt yn poeni am y Ynys Mon.