Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/11/2018
Gan Myrddin John Roberts

Sylw

1. Mae’r broses yn wallus o’r cychwyn gan nad oedd yr holiadur cyntaf yn cynnwys pob dewis posib fel dull o gario’r trydan o Wylfa. Nid oedd yr holiadur yn ddiduedd.
2. Nid yw Nat. Grid wedi gwrando dim ar y sylwadau mae poblogaeth Môn wedi ei wneud.
3. Dylai Nat Grid gynhyrchu adroddiad fedr argyhoeddi pobl Môn fod y ceblau trydan yn berffaith saff ac nad oes siawns I neb Datblygu cancr, yn enwedig cancr yr ymennydd. Dywedaf hyn oherwydd bod o leiaf chwech o ddynion wedi datblygu cancr yr ymennydd yn fy ardal I allan o boblogaeth o tua dwy fil. Mae pump ohonynt wedi marw.
4. Nid oes modd cuddio’r peilonau mawr yma. Byddant yn llygru’r Ynys ar ei thraws.
5. Mae elw blynyddol Nat Grid mor enfawr, ni fuasai’r gost o danddaearu’r ceblau yn ei brifo o gwbl. Mae’r gost i genedlaethau o drigolion Môn yn mynd i fod yn enfawr o ran iechyd, poendod meddwl, gwelededd a phrisiau eiddo yn gostwng.