Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/11/2018
Gan Rhun ap Iorwerth

Sylw

Diolch am y cyfle i mi, fel Aelod Cynulliad Ynys Môn, ddatgan fy ngwrthwynebiad i gynnig y Grid Cenedlaethol ar Gysylltiad Gogledd Cymru.

Rwyf yn gwrthwynebu’r prosiect arfaethedig hwn ar lefel gwbl sylfaenol - buasai codi rhes arall o beilonau ar draws yr ynys yn cael effaith andwyol ar gymdeithas, lles ac economi Ynys Môn. Isod fe restraf y materion sydd o bryder i mi.

• Nid wyf o’r farn fod y Grid Cenedlaethol a Horizon wedi dilyn canllawiau’r Ddeddf Gynllunio 2008 hyd yma - does dim asesiad gwirioneddol o’r effaith gronnus a gaiff y datblygiad (hy. Wylfa Newydd a Chyswllt Gogledd Cymru) yn ei gyfanrwydd wedi bod - ac mae gen i bryderon dwys nad yw’r ymgynghoriadau sydd wedi eu cynnal chwaith ddigon trylwyr.

• Mae sawl enghraifft ble nad yw’r Grid Cenedlaethol wedi dilyn y canllawiau mewn polisi Llywodraeth y DU (EN-1 a EN-5)

• Bu’r ymgynghoriad yn aneffeithiol – roedd cynlluniau wedi eu cyhoeddi yn 2009, tair mlynedd cyn y cyfnod ymgynghori gychwyn, a ni roddwyd ystyriaeth i unrhyw opsiynau eraill yn ymgynghoriad 2016.

• Tra bod cannoedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad, mae dros 13,000 wedi llofnodi deiseb y gr?p ymgyrchu ‘Ynys Môn yn dweud na i Beilonau’ ac yn wir, fe ystyriwyd fy ngwrthwynebiad i, a’r Aelod Seneddol, fel barn bersonol yn hytrach na barn cynrychiolwyr etholedig. Mae pob haen wleidyddol - gan gynnwys yr Awdurdod Lleol - yn gwrthwynebu’r cynllun hwn.

• Pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros ffafrio tan-ddaearu ceblau yn Ionawr 2017, ac ers hynny mae degfed rhifyn Polisi Cynllunio Cymru yn nodi’n glir bod Llywodraeth Cymru yn ffafrio i bob cysylltiad newydd fod dan-ddaear. Ni fydd hyn yn cael unrhyw sgil-effaith ar ddichonolrwydd yr orsaf bwér.

• Mae’r costau ychwanegol o dan-ddaearu o gwmpas 11p/flwyddyn ar fil trydan gyffredin o £554 – cynnydd o 0.02% yn unig.

• Er bod sawl cynnig amgen wedi eu gwneud, yn cynnwys tan-ddaearu a gosod ceblau dan y mór, mae’r Grid Cenedlaethol wedi gwrthod unrhyw addasiadau i leihau’r effaith weledol ond yn cynnwys addasiadau i gynnwys y rhes newydd o beilonau. Yr enghraifft diweddaraf yw’r methiant i ystyried gosod ceblau i groesi’r Fenai ar 3ydd bont mewn partneriaeth á Llywodraeth Cymru (all leihau costau o £200miliwn).

• Nid oes ystyriaeth ddigonol wedi bod i’r saith Rheol Holford – yn syml, ni ellir cuddio peilonau ar Ynys Môn oherwydd natur y dirwedd.



• Mae peilonau’n etifeddiaeth gwael i genhedlaethau’r dyfodol – sy’n groes i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

• Mae technolegau amgen yn bodoli - yn cynnwys gosod ceblau dan ddaear a dan y môr - prosiectau na fyddai’n effeithio’n negyddol fel bydd rhes arall o beilonau.

• Allforio trydan o Ynys Món a Chymru fydd y peilonau hyn. Tra’n cartrefu gorsaf bwér newydd yn barod, ni ellir ddisgwyl i Ynys Món ddioddef rhes newydd o beilonau’n ogystal.

• Ni ddylid ddefnyddio’r rhes bresennol fel esgus dros osod ail res, a dadlau bod y cyhoedd yn derbyn y peilonau presennol. A fyddai ail res o beilonau yn cyfiawnhau trydydd, a pedwerydd rhes hefyd?

• Pe bai statws AOHN wedi ei ddynodi i Ynys Môn ynghynt, mae’n annhebygol y gallasai llawer o’r rhes bresennol fod ar beilonau.

• Mi fydd y peilonau’n niweidiol i olygfeydd Ynys Môn a’r Ardal o Harddwch Naturiol, golygfeydd eiconig Parc Cenedlaethol Eryri a sawl safle hanesyddol hefyd. Mi fyddai effaith andwyol ar y diwydiant dwristiaeth yn ogystal. Buasai’n effeithio ar amaethyddiaeth, drwy golli tir a lleihau gallu amaethwyr i ffermio rhannau eraill. Mae gan Ynys Môn gyfan statws Geo Parc - nid yw’r statws hwn yn berthnasol i’r arfordir yn unig fel yr awgrymir.

• Mi fydd yn lleihau gwerth tai, yn cael effaith gymdeithasol o £500 miliwn ar amcangyfrif – mae hyn yn cael ei lwyr anwybyddu er canllawiau’r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU.

• Mae ymchwil gwyddonol wedi ei gynnal ar effaith peilonau ar Iechyd pobl a da byw. Er bod barn yn amrywio, dylid ddilyn egwyddorion rhagofal o ganlyniad.