Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/11/2018
Gan Urdd Gobaith Cymru - Ynys Môn

Sylw

Ymatebwn fel un o brif Fudiadau Ieuenctid ym Môn ar gyfer hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn gymdeithasol. Ymrwymwn i gyflawni amcanion Cymraeg 2050 y Llywodraeth. Hoffwn felly gofrestru fel parti â buddiant oherwydd ein harbenigedd ar effaith y datblygiad ar yr Iaith Gymraeg.

Prif bwrpas Urdd Gobaith Cymru ydi hyrwyddo’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg a sicrhau dyfodol a pharhad i’r Gymraeg fel iaith fyw tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Fel mudiad rydym yn gweithio gyda chymunedau ym mhob rhan o Gymru gyda Swyddog yn gweithio ym mhob Rhanbarth. Mae gan yr Urdd ym Môn 3100 o Aelodau sydd yn mynd o’r oedran bl derbyn i 25 oed. Yn ogystal â hyn mae gennym ni dros 150 o wirfoddolwyr sydd yn rhoi eu hamser am ddim yn wythnosol ar gyfer dyfodol y Gymraeg.

Credwn ei fod yn hanfodol bod unrhyw berson sydd yn gwneud gwaith ar safle'r datblygiad newydd yn derbyn cwrs ymwybyddiaeth iaith fel rhan o'i anwytho, credwn y dylai hyn fod yn wir ar gyfer staff ac unrhyw gontractwyr / gweithwyr allanol.

Credwn yn gryf y dylai cyfleoedd gwaith fod ar gael ar gyfer trigolion lleol ac wrth leol rydym yn ei olygu Môn a Gwynedd yn unol â 'proximity principle' wrth gychwyn ar stepan drws y safle gan roi cyfleoedd i’r bobl fwyaf lleol yn gyntaf gan fanteisio ar y cynllun prentisiaethau / cwrs hyfforddi sydd eisoes wedi bodoli gyda Choleg Menai.

Credwn dylai unrhyw fewnfudwyr gael y cyfle i ddilyn cwrs yn Gymraeg fel rhan o'i swyddi. Dylai'r GRID fel cyflogwr cydwybodol fod yn cynnig yr hyfforddiant yma i'w staff ac yn eu hannog i'w wneud hynny.

Credwn ddylai GRID newydd gefnogi'r Ysgolion lleol gan roi arian tuag at gynllun i agor a chefnogi canolfannau Iaith er mwyn roi'r gefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc hwyrddyfodiad.

I gloi'r peth pwysicaf i ni fel Mudiad ydi eich bod yn rhoi parch a chware teg i'r Gymraeg ac yn cefnogi Mudiadau fel yr Urdd sydd yn brwydro'n ddyddiol ar gyfer parhad a datblygiad ein hiaith ac ar gyfer cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg a bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle i aros ar yn eu cymunedau drwy ennill bywoliaeth yn lleol.

Mae croeso i chi ddod i ymweld â ni ar gyfer trafod unrhwy un o'r materion uchod a byddwn yn ymfalchïo yn y cyfle i wneud hynny.

Iaith.
O ran proses, noder nad ydi’r ddogfen gais wedi ei gyfieithu’n llawn, sy’n tanseilio hawliau ieithyddol siaradwyr Cymraeg i gael mynediad cyfartal at wybodaeth. Er i’r Grid mewn cyfarod gyda chi 17/9/12 (EN020015 ) gydnabod “that 70% of identified key stakeholders for this project are Welsh speakers” nid yw’r siaradwyr yna yn cael cyfle cyfartal i ymateb i’r ddogfen cais yma yn eu hiaith.