Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/11/2018
Gan Menter Iaith Môn

Sylw

Mae Menter Iaith Môn yn gymwys i dystio na fydd effaith datblygiad y Grid Cenedlaethol ar yr iaith Gymraeg yn niwtral. Ymatebwn fel y prif gorff hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym Môn. Ymrwymwn i gyflawni amcanion Cymraeg 2050 y Llywodraeth ac ystyriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Hoffwn felly gofrestru fel parti â buddiant oherwydd ein harbenigedd ar effaith y datblygiad ar yr Iaith Gymraeg.
Dylai’r Datblygwr gydnabod effaith cronnus y datblygiad a’r canrannau sy’n datgelu pa mor agos i’r newid andwyol (‘tipping point’) ieithyddol yr ydym ym Môn.
1. Mae uchafswm gweithlu posib y Grid o 447 yn ychwanegu at effaith cronnus hyd at 9,000 o weithwyr Horizon, fydd yn golygu fwy na 10% mwy o siaradwyr di-Gymraeg ar ynys ble mae ond 57% o siaradwyr Cymraeg. Mae angen adnoddau i gynnal iaith yn rhagweithiol mewn cymuned gyda llai na 70% o siaradwyr Cymraeg.
2. O ystyried y pryderon lleol am yr uchod, rhyfeddwn nad oes unrhyw gamau lliniaru. Dengys y Datblygwr anwybodaeth am effaith canran uchel o bobl ddi-gymraeg i gymuned heb y gefnogaeth ac adnoddau i’w integreiddio’n ieithyddol, hyd yn oed mewn achosion byrdymor.
3. Yn ogystal rhaid asesu’r effaith ar dwf siaradwyr Cymraeg, gan ystyried y buddsoddiad yn y Cymraeg 2050, Deddf Llesiant, polisïau addysg CSYM, gwaith cynllunio a hyrwyddo iaith asiantaethau megis Menter Iaith Môn/Mudiad Meithrin/yr Urdd ayb.
4. Yn eisiau hefyd yw’r data ar effaith y datblygiad ar siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun ymchwil defnydd a throsglwyddo iaith.
5. Heb le i fanylu yma, pryderwn am ansawdd y dystiolaeth ar gyfer C5 Iechyd, C7 Troseddu, C11 Incwm, C13 Ysgolion, C14 Gofal Iechyd, C15 Gwasanaethau Lleol, C16 Tensiynau/Gwrthdaro, C17 Diwylliant a Thraddodiadau, a C18 Grwpiau Ieuenctid a Gwirfoddol. Fel enghraifft cymerer Cwestiwn C13 – Mae’r dadansoddiad cwta 16 llinell i agwedd mor bwysig yn annigonol. Dengys y gosodiad o effaith niwtral nad yw’r datblygwr wedi ymateb i adborth blaenorol fod un plentyn di-Gymraeg yn unig mewn dosbarth yn medru chwalu ymdrechion yr ysgol i drochi disgyblion yn y Gymraeg a’u cefnogi i fod yn rhugl ddwyieithog erbyn 11 oed. O ganlyniad mae Unedau Iaith ar yr ynys i gefnogi plant 7-11 gyda lle i 32 plentyn y tymor. Eisoes mae cynllunio ar gyfer datblygiadau’r ynys yn arwain at mewnlifiant ac mae tua 45 o ddisgyblion ar y rhestr aros am lefydd. Nid oes capasiti i ddelio gyda hyd yn oed 1 plentyn arall tan dymor yr Haf 2019. O ganlyniad nifer bychan iawn o blant di-Gymraeg sydd eu hangen i newid iaith yr iard neu gyfeillgarwch.
6. Monitro – nid oes camau monitro, gan adael y gymuned i ddelio â’r holl risg ag effaith.
O ran proses, noder nad ydi’r ddogfen gais wedi ei gyfieithu’n llawn, sy’n tanseilio hawliau ieithyddol siaradwyr Cymraeg i gael mynediad cyfartal at wybodaeth. Er i’r Grid mewn cyfarod gyda chi 17/9/12 (EN020015 ) gydnabod “that 70% of identified key stakeholders for this project are Welsh speakers” nid yw’r siaradwyr yna yn cael cyfle cyfartal i ymateb i’r ddogfen cais yma yn eu hiaith.