Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/11/2018
Gan Dafydd Roberts

Sylw

Rwy’n dymuno cyflwyno fy ngwrthwynebiad i fwriad y Grid Cenedlaethol i osod ail res o beilonau ar draw Ynys Môn.
Yn gyntaf oll, rwy’n gwbl anfodlon ar y ffordd y mae’r GC wedi cynnal yr ymgynghoriad. Pwrpas ymgynghoriad yw ceisio barn y boblogaeth. O’r cychwyn cyntaf, mae’r corff annemocrataidd hwn wedi dewis peidio gwrando. Fe wnaed newidiadau mân, ond ar eu telerau hwy. Mewn sawl cyswllt, maen nhw wedi datgan mai ei dewis opsiwn nhw yw peilonau newydd. Mewn un cyfarfod, cyn i’r bargyfreithiwr droi i fyny wedi iddo gael galwad, fe wnaeth un aelod o’r staff gydnabod yn agored i griw o wrthwynebwyr mai’r unig reswm dros y dewis hwn oedd y gost. Mae hyn yn annemocrataidd hollol ac rwyf wedi colli ffydd yn y GC dros y blynyddoedd diwethaf.
Does dim amheuaeth mai'r dewis call yn yr achos hwn yw mynd o dan y ddaear neu’n danfor. Mae gosod ail res, ac o bosibl trydydd maes o law os bydd y galw am drosglwyddo'n cynyddu, yn mynd i gael effaith negyddol tymor hir ar nifer sylweddol o drigolion unigol, ar fusnesau amaethyddol ac yn bendant ar y diwydiant twristiaeth. Nid oes unrhyw asesiad o’r effaith hon wedi ei gwneud gan y GCl ac mae hynny’n annheg ac yn arddangos balchder sy’n ymylu ar fod yn achos o fwlio’r cyhoedd. Dyletswydd y GC yw i’r boblogaeth ac nid i gyfranddalwyr. Ar sail hyn rwy’n datgan fod yr ymgynghoriad wedi bod yn anfoesol ac yn anghyfreithiol.
Mae’r Grid wedi dewis hefyd i beidio ystyried peryglon iechyd ceblau uwchben y ddaear. Er bod yna ddwy ochr i’r ddadl hon mae lle cryf i gredu fod EMF yn cael effaith ar fodau dynol. Mae hyn yn anghyfrifol dros ben ar eu rhan.
Mae eu hamharodrwydd i gymryd unrhyw sylw o gynnwys Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn dangos haerllugrwydd eithriadol ac amarch tuag at Lywodraeth Cymru.
Mae yna ddeddfau cynllunio a chanllawiau sydd heb eu dilyn ac mae gofyn i chi fel Arolygaeth Gynllunio graffu ar hyn.
Byddai gosod ail res yn cael effaith negyddol ar boblogaeth Ynys Môn am ddegawdau lawer. Nid yw’r gost gychwynnol, fyddai’n geiniogau ar filiau blynyddol defnyddwyr, yn cyfateb i’r gost i’r ardal hon dros y trigain mlynedd a mwy y bydd y peilonau'n brasgamu ar draws Ynys Môn.
Mae’r achos hwn yn gofyn am ymchwiliad manwl i ddulliau’r GC o ymgynghori a chynnal ymgynghoriad, gan dalu sylw manwl i gymhelliant y GC ar draul y cyhoedd.