Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/11/2018
Gan Glenys Roberts

Sylw

Rwy'n gwrthwynebu’n gryf bwriad y Grid Cenedlaethol i wneud cais i osod rhes arall o beilonau ar draws Ynys Môn am y rhesymau canlynol -

1. Byddai ychwanegu llinell arall yn andwyol iawn i olygfeydd o gefn gwlad ac o AHNA.

2. Byddai'r effaith ar y diwydiant twristiaeth yn enfawr. Nid yw peilonau a thwristiaeth yn cyd-fynd. Mae’r diwydiant hwn yn allweddol i ffyniant economaidd y sir hon.

3. Rwy'n poeni’n enfawr, gyda'r bwriad i gynyddu ymhellach gynhyrchu p?er trydan ar Ynys Môn, y bydd ail linell yn cael ei defnyddio i gyfiawnhau trydydd.

4. Byddai ail res o beilonau yn cael effaith ar allu amaethwyr i ffermio'n effeithiol am gyfnod maith gan gyfyngu ar y defnydd o dir.

5. Mae peilonau yn cael sicr o gael effaith negyddol ar bris eiddo.

6. Rwy'n bendant nad yw byw wrth ymyl neu o dan beilonau'n dda i iechyd. Nid yw'r GC wedi cymryd unrhyw sylw o'r ymchwil sy’n dangos hyn a thrwy hynny yn peryglu bywydau unigolion.

7. Bu'r ymgynghoriad yn annheg ac yn sicr yn annemocrataidd o’r cychwyn; ychydig o sylw a dalodd y GC i lais clir trigolion ac aelodau etholedig y sir mai o dan y ddaear neu o dan y môr y dylai’r ceblau fod.

8. Does dim asesiad o effaith cronnus wedi ei wneud gan y GC. Byddai codi ail res o beilonau'n cael effaith negyddol iawn ar economi’r Sir hon