Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/11/2018
Gan Ann Evans

Sylw

Rwy'n gwrthwynebu bwriad y Grid Cenedlaethol i wneud cais i osod rhes arall o beilonau ar draws Ynys Môn.

Gwnaf hynny am y rhesymau canlynol -

* Rwy'n bryderus iawn, gyda'r bwriad i gynyddu ymhellach gynhyrchu p?er trydan ar Ynys Môn, y bydd ail linell yn cael ei defnyddio i gadarnhau trydydd
* Does yna ddim dadlau o gwbl na fyddai ychwanegu llinell arall yn andwyol iawn i olygfeydd o gefn gwlad ac mewn AHNA
* Byddai'r effaith ar y diwydiant twristiaeth yn ddamniol. Nid yw peilonau a thwristiaeth yn cyd-fynd a'i gilydd. Mae hwn yn ddiwydiant allweddol i ffyniant y sir hon.
* Rwy'n sicr fy marn y byddai ail res o beilonau yn cael effaith ar allu amaethwyr i ffermio'n effeithiol ac i wneud y gorau o'u heiddo.
* Mae peilonau yn cael effaith negyddol ar bris eiddo boed hwnnw'n gartrefi neu'n dir amaethyddol.
* Rwy'n bendant fy marn nad yw byw wrth ymyl neu o dan beilonau'n dda i iechyd. Nid yw'r Grid yn cymryd unrhyw sylw o'r ymchwil sy’n dangos hyn gan beryglu bywydau unigolion.
* Bu'r ymgynghoriad maith yn annheg ac yn sicr yn annemocrataidd; ychydig iawn o sylw a wnaeth y Grid i wir lais trigolion ac aelodau etholedig y sir hon gan ddewis eu hanwybyddu yn eu cri am ddull arall o drosglwyddo trydan. Tan ddaearu neu'n danfor yw ein dewis ni.
* Nid ymgymerodd y Grid Cenedlaethol ag asesiad o effaith cronnus. Byddai codi ail res o beilonau'n cael effaith negyddol iawn ar economi Ynys Môn am gyfnod maith.