Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/11/2018
Gan William Raymon Evans

Sylw

Rwy'n cofrestru fel un sy'n gwrthwynebu codi ail res o beilonau ar draws Ynys Môn, y bwriad presennol gan y Grid Cenedlaethol.
Dyma'r rhesymau dros fy ngwrthwynebiad:
Bydd yn difetha'r golygfeydd o gefn gwlad. Mae sawl AHNA o fewn cyrraedd ac fe fydd peilonau newydd yn amharu'n sylweddol ar y gwelediad ohonynt. Byddai hyn yn anharddu rhannau helaeth o Ynys Môn.
Byddai codi ail res o beilonau yn ddinistriol iawn i'r diwydiant twristiaeth. Ni fydd ymwelwyr yn dymuno treulio eu gwyliau o fewn cyrraedd peilonau ac yn sicr, ni fyddant yn dymuno dychwelyd. Mae'r diwydiant hwn yn un o bwys mawr i economi'r Ynys hon ac yn dwyn incwm sylweddol iawn sydd yn cynnal nifer fawr o deuluoedd a busnesau.
Rwyf o'r farn y bydd amaethyddiaeth yn dioddef hefyd dros gyfnod bodolaeth y peilonau gan amharu ar allu ffermwyr i wneud defnydd llawn o'u tir.
Fe fydd yn cael effaith ar werth gwerth eiddo yn cynnwys tir.
Er nad yw'r Grid yn fodlon cydnabod yn agored, mae yna dystiolaeth fod EMF yn cael effaith ar iechyd. Tan ddaearu neu fynd o dan y d?r yw'r ateb gan y byddai'n dileu'r broblem hon. Mae dwy ochr i'r ddadl hon ond mae digon o dystiolaeth i ddweud bod angen bod yn ofalus. Mae yna risg ac yn yr unfed ganrif ar hugain mae'n ddyletswydd arnom gymryd sylw o'r risg honno. Does dim esgus dros chwarae gydag iechyd a bywydau trigolion yr Ynys hon.
Rwy'n teimlo'n rhwystredig iawn nad yw'r Grid wedi gwrando arnom yn ystod y cyfnod ymgynghori maith. Mae pawb wedi datgan eu barn yn glir mai o dan y d?r neu'r ddaear y dylai'r ceblau redeg ond nid yw'r Grid wedi cymryd unrhyw sylw o'r elfen hanfodol yma o'r ymgynghoriad. Mae';r aelod cynulliad, yr aelod seneddol, y Cyngor Sir, Un Llais Cymru ac unigolion dirifedi wedi dweud yn glir nad peilonau yw eu dymuniad ond maen nhw wedi eu hanwybyddu. Mae hyn yn annemocrataidd. Mae'r newidiadau a waned gan y Grid Cenedlaetholo dros y blynyddoedd diwethaf yn rhai bychan. Maen nhw wedi dewis canolbwyntio ar un opsiwn yn unig gan anwybyddu barn y cyhoedd yn gyfan gwbl mai opsiynau eraill yw eu dewis hwy. Mae materion ariannol wedi llywio'r drafodaeth.
Nid yw'r Grid wedi cymryd unrhyw sylw o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, deddf unigryw i Gymru sy'n mynnu fod unrhyw gorff yn ystyried effaith datblygiad ar ein plant a'n disgynyddion.
Rwy’n apelio arnoch i ystyried y sylwadau uchod a gwrthod cais y grid Cenedlaethol fel y mae ar hyn o bryd.