Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 28/11/2018
Gan Ann Jones

Sylw

Rwy'n croesawu'r cyfle I fynegi fy ngwrthwynebiad I ail res o beilonau ar draws Ynys Mon.
Mae'r ymgynghoriad wedi bod yn ddiffygiol o'r cychwyn cyntaf. Fe ddywedodd y Grid Cenedlaethol mai ei dewis hwy yw peilonau. Fe ddywedodd yr Aelod Seneddol, yr Aelod Cynulliad, Y Cyngor Sir, Un Llais Cymru Mon (sy'n cynrychioli'r holl gynghorau eraill) a mwyafrif llethol bobol yr Ynys hon mai o dan y ddaear neu o dan y mor y dylai'r ceblau fynd. Cafodd pawb ei anwybyddu yn llwyr gan y Gri. Ai dyma yw ystyr ymgynghori teg ym marn yr Arolygaeth Gynllunio?

Byddai ail res o beilonau yn ddinistriol i'r diwydiant twristiaeth. Pwy yn ei lawn bwyll sydd eisiau dod ar wyliau i ganol peilonau? Fe fydd gwerth eiddo gwyliau, yn ogystal ag eiddo arall o fewn cyrraedd y peilonau, yn gostwng, sefyllfa gwbl annerbyniol. Bydd y golled ariannol i economi'r Sir lawer gwaith yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng cost peilonai a than ddaearu rwan.

Byddent yn cael effaith ar amaethyddiaeth am gyfnod estynedig. Yn yr un modd, rwy'n credu eu bod yn cael effaith ar iechyd dros yr hir dymor. MAE yna broblem gyda EMF. Nid yw pawb yn gytun ar hyn o bryd ond gallaf eich sicrhau fel yr a'r blynyddoedd heibio y cawn ni ein coelio a'n cael yn gywir pan fydd trigolion yn dioddef afiechydon.

Nid oes asesiad o effaith cronnus wedi ei wneud ac mae hynny'n gwbl annheg a ni fel trigolion.
Rwy'n erfyn o waelod calon i chi wrthod y cais beiddgar hwn ar ran y Grid Cenedlaethol.