Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 28/11/2018
Gan Richard Meirion Jones

Sylw


Fel Aelod Etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn, sy'n cynrychioli Ward Aethwy dymunaf gofrestru fel parti â diddordeb mewn perthynas â'r Archwiliad o gais Gorchymyn Caniatâd Datblygu Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru.

Yr wyf yn gwrthwynebu cynnig y Grid Cenedlaethol i adeiladu ail linellau p?er ar beilonau ar draws Ynys Môn gan fy mod yn teimlo y gallai gael effeithiau andwyol sylweddol ar amwynderau gweledol, lles trigolion a’u hiechyd a’u cymunedau, yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg, yn ogystal â buddiannau busnes, yn enwedig busnesau twristiaeth sydd o bwysigrwydd mawr hirdymor i economi'r Ynys a hefyd amaethyddiaeth. Rwy'n teimlo mai'r unig ateb derbyniol i gysylltu datblygiad Wylfa Newydd i'r Grid Cenedlaethol ym Mhentir yw trwy linell danddaearol. Er fy mod yn derbyn y bydd adeiladu cysylltiad o'r fath ynddo ‘i hun yn arwain at anghyfleuster ac anhwylustod tymor byr sylweddol i drigolion ac ymwelwyr i’r Ynys, mae'r budd hirdymor o beidio cael ail linell, a hwyrach drydedd, ar beilonau, yn ymestyn ar draws yr Ynys yn pell orbwyso hyn.