Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 28/11/2018
Gan John Arwel Edwards

Sylw

Fel y gwelwch o'm cyfeiriad rwyn byw ar Ynys Mon. Hyn yw fy niddordeb yn y mater yma. Hefyd o 2003 hyd at 2008 roeddwn yn Gynghorydd Sir dros henward Gwyngyll.

Nid wyf yn hapus ar bwriad i adeiladu rhes ychwanegol o beilonau ochor ag ochor ar rhai presenol ar draws yr ynys am y rhesymau canlynol

Mae un rhes yn anerbyniol ond byddai rhes ychwanegol yn difrodi un o asedau mwyaf Ynys Mon - sef ei harddwch naturiol

Byddai hyn yn boendod i unigolion ond hefyd yn fater difrifol i economi yr ynys drwy effeithio yn negyddol ar y diwydiant ymwelwyr _ diwydiant i'w feithryn gyda gofal

Mae arnaf bryder hefyd y gall hyn i gyd fod yn rhan o broses o greu corridor trosglwyddo ynni llawer mwy sylweddol ar draws yr ynys.

Rydwyf hefyd yn codi'r cwestiwn yma. Paham na ellir ysyried yn ffafriol yr obsiynau ar gyfer cludo trydan ar draws Ynys Mon sydd ddim yn difrodi i'r fath raddau?