Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 28/11/2018
Gan Hefin Williams

Sylw

Rwy'n gwrthwynebu codi ail res o beilonau.
Bydd yn andwyol i olygfeydd o gefn gwlad ac mewn AHNA. Mae hyn yn anfaddeuol ar Ynys Mon.
Bydd ail res o beilonau yn andwyol iawn i dwristiaeth, amaethyddiaeth a gwerth eiddo. Mae hyn yn arbennig o wir yn Star ble y bydd posibl i ni fod rhwng dwy res!
Er na fydd y Grid fyth yn cydnabod yn agored, mae yna dystiolaeth fod EMF yn cael effaith ar iechyd. O dan y ddaear yw'r ateb gan y byddai'n dileu'r broblem hon. Mae'n well bod yn saff o gofio fod llawer o feddygol hyn yn oed yn meddwl nad oedd drwg mewn ysmygu hanner canrif yn ol!
Nid yw'r Grid wedi gwrando go iawn arnom. Mae pawb o'r bron yn datgan eu barn yn glir mai o dan y dwr neu'r ddaear y dylai'r ceblau redeg ond nid yw'r Grid wedi cymryd unrhyw sylw o'r elfen hanfodol yma o'r ymgynghoriad. Mae nhw'n brolio iddyn nhw wneud 5000 o newidiadau ond BYCHAN yw rheini ac ar eu telerau hwy! Anfoesol.
Mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthym nad yw hyn yn deg. Rwy'n erfyn arnoch i wrthod y cais cynllunio hwn er lles holl drigolion Ynys Mon.