Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 28/11/2018
Gan Iona Williams

Sylw

Rwy'n bryderus iawn am fwriad y Grid Cenedlaethol i osod ail res o beilonau ar draws Ynys Mon. Bydd yn effeitho'n fawr arnom ni yn Star gan y byddwn rhwng y ddwy res ond rwy'n bryderus iawn am weddill yr Ynys hefyd.
Rwyf yn bendant o'r farn nad yw'r Grid Cenedlaethol wedi gwrando ar lais bobol Ynys Mon o'r cychwyn cyntaf. Mae nhw wedi datgan o'r dechrau mai ei dewis hwy yw ail res pan fo mwyafrif llethol trigolion y Sir yn glir iawn mai ei lle yw o dan y ddaear neu o dan y mor. Fe ddywedwyd celwydd wrthym nad oedd y dewis gyda mynd o dan y dwr ond mae nhw wedi cydnabod bellach fod hyn yn bosibl. Mae beth a ddywedwyd gan y Grid yn gelwydd ac mae sawl enghraifft aral o geisio taflu llwch i lygaid.
Mae gennyf bryder mawr ynglyn a'r effaith ar y diwydiant twristiaeth sydd mor bwysig i ni yma. Mae'r incwm blynyddol i'r Sir yn anferthol ac mae bywioliaeth llawer un yn dibynnu arno.
Yn yr un modd, fe fydd effaith ar y diwydiant amaeth am drigain mlynedd a mwy.
Er fod y Grid Cenedlaethol yn gwadu hynny, mae tystiolaeth gref yn yr ardal hon o effaith EMF ar iechyd y boblogaeth. Mae hyn yn fy mhoeni i. O roddi'r ceblau o dan y ddaear, fe fyddai'r risg i iechyd yn llawer llai.
Rwy'n byw mewn ardal hardd iawn ac mae llawer AHNA yn ymyl. Fe fydd gosod ail res yn difetha'r golygfeydd hyn oddi wrthynt.
Gyda'r rhagolygon y bydd yna fwy o gynhyrchu trydan ar yr Ynys, mae yna bosibilrwydd mawr y gellid gosod trydedd rhes. Rwan ydi'n amser i daclo'r broblem debygol trwy fynd o dan y ddaear. Clywais yn ddiweddar fod y Grid yn tynnu rhai peilonau i lawr a hynny ohewrydd rhai o'r rhesymau sydd wedi ei nodi gennyf. Mae hyn yn eironig iawn. Mae nhw'n gwrthod edrych i'r dyfodol ac yn bwrw ymlaen gyda'r hen ddull o drosglwyddo trydan.

Fe fydd gwerth eiddo yn gostwmg. Mae hynny'n fwy na gwir ymhob man ond yn berthnasol iawn i Star fydd, fel y dywedais, rhwng y ddwy res.

Mae'r ffaith fod y Grid wedi dewis anwybyddu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fel rhywbeth amherthnasol iddyn nhw yn dweud y cwbl am y cwmni hwn.
Rwy'n erfyn arnoch i wrthod y cais a chyfeirio'r Grid Cenedlaethol i chwilio am opsiynau gwell.