Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 27/11/2018
Gan Linda Jones

Sylw

Nids wyf yn dymuno gweld ail res o beilonau ar draws ein sir.
Bydd hyn yn anharddu y dirwedd am ddegawdau gan y byddant yn cael eu gweld o bob ardal o'r bron ac o AHNA. Rwy'n gwybod y bydd pris eiddo yn dioddef gan na fydd bobl eisiau prynu tai sydd o dan neu wrth ymyl o peilonau. Fe fydd hyn yn anheg iawn ar breswylwyr a bydd hefyd yn cael effaith ar y diwydiant twrisrtiaid. Mae Ynys Mon yn dibynnu ar yr arian hwn; mae'n ddiwydiant o bwys.
Mae gennyf bryderon am effaith eilonau ar iechyd hefyd er fod y grid yn gwadu fod yna unrhyw broblem. O dan y ddaear mae lle rhain yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae'n eironig fod y Grid yn dewis tynnu sawl peilon i lawr ar draws Prydain am y rhesymau hyn ac ar y llaw arall yn gosod degau o rai newydd wrth ochr rhai sydd yma'n barod,. Mae'n anodd credu hyn.
Rwy'n erfyn arnioch i wrando ar lais cyrff cyhoeddus y sir, ein haeloidau etholedig ac ar y boblogaeth gyfan sy'n gwrthwynebu hyn yn chwyrn.