Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 26/11/2018
Gan Jenifer Jones

Sylw

Nid wyf yn credu y dylai'r Grid Cenedlaethol gael caniatad i godi ail res o beilonau ar draws Ynys Mon.
Bydd ail res o beilonau yn cael effaith eithriadol ar y sir hon. Fe fydd yn effeithio ar dwristiaeth; ni fydd bobol yn yn dod i'r ynys ar eu gwyliau yn y niferoedd y maen nhw'n dod rwan. Mae tystiolaeth fod hyn yn digwydd mewn mannau ble mae nifer fawr o beilonau. Bydd yna effaith ar werth eiddo hefyd ac nid oes ystryriaeth yn cael ei roddi i hyn.
Bydd yna effaith ar amaethyddiaeth hefyd a hynny dros gyfnod hir.
Nid yw'r Grid Cenedlaethol wedi bod yn deg gyda'r cyhoedd. Nid ydynt wedi gwir wrando ar lais y bobol, yr Aelod Senedddol, yr Aelod Cynulliad, Un Llais Mon, Y Cyngor Sir a'r mwyafrif o'r preswylwyr sydd yn dweud nad yw peilonau'r dderbyniol ganddynt. Pa fath o ymgynghoriad yw un sydd ddim yn gwrando? Mae nhw'n dweud eu bod wedi gwneud hynny ond dim ond trwy wneud newidiadau bychain mewn gwirionedd. Mae nhw'n taflu llwch i'n llygaid.
Bydd gwelediad yr Ynys yn newid hefyd gyda dwy res o beilonau i'w gweld o AHNA.
Rwy'n erfyn arnoch i wrthod eu cais.