Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 26/11/2018
Gan Alwyn Jones

Sylw

Rqyf yn gwrthwynebu gosod ail res o beilonau ar draws Ynys Mon am y rhesymau canlynol:
Bydd yn amharu ar welediad mewn AHNA. Yn yr un modd, fe fyddai'n cael effaith ar y diwydiant twristiaeth sydd yn cynhyrchu dros chwarter biliwn o incwm i'r ynys hon yn flynyddol. Fe fydd effaith tymor hir i'w weld hefyd ar amaethyddiaeth. Mae'r ddau ddiwydiant yma'n eithrio bwysig yma ym Mon.adol
Mae gen i bryder mawr am effaith peilonau ar iechyd. Mae yna wybodaeth gyhoeddus am engreifftiau o garfan uwch o bobl yn dioddef afiechyd pan yn yw ger peilonau. Mae'r Grid yn gwadu hyn ond yr oedd pawb yn credu fod ysmygu'n llesol i'r iechyd flynyddoedd yn ol. Mae'n well bod yn saff a tan ddaearu.
Rwyf o'r farn fod yr ymgynghoriad wedi bod yn wallus ac yn annheg gan nad yw'r Grid Cenedlaethol wedi gwrando ar farn y bobl, barn sydd bron a bod yn unfryd yn erbyn ail res uwch ben y ddaear.
Rwy'n erfyn arnoch i gymryd y sylwadau uchod i ystyriaeth yn eich trafodaethau.