Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.
Cysylltiad Gogledd Cymru
Gan UN LLAIS CYMRU on behalf of UN LLAIS CYMRU / ONE VOICE WALES - CANGEN YNYS MON
Sylw
Bydd peilonau ychwanegol yn anharddu rhannau helaeth o’r Sir am drigain mlynedd a mwy, gyda’r effaith ar welediad yn syfrdanol; ni fydd modd osgoi eu heffaith. Byddent yn cael ei gweld o sawl AHNE. Mae’r Grid Cenedlaethol yn bwriadu tynnu rhai peilonau i lawr ar draws Prydain am eu bod yn anharddu’r dirwedd (yn ardal Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd er enghraifft) tra ar yr un pryd yn codi rhai newydd. Nid oes synnwyr yn hyn.
Gan fod Ynys Môn yn ddibynnol iawn ar dwristiaeth rydym o’r farn y bydd ail res yn cael effaith sylweddol ar incwm trigolion y Sir. Bydd ymdrechion i gynyddu a gwella’r ddarpariaeth ar gyfer ymwelwyr yn dioddef a bydd sawl ardal yn colli eu hapêl ac effaith sylweddol ar incwm y darparwyr. Bydd y golled i’r diwydiant dros gyfnod bodolaeth dwy res o beilonau yn llawer iawn mwy na’r gost ychwanegol i dan ddaearu neu osod cebl yn danddwr. Mae bwriad y Grid Cenedlaethol yn amharchu hawliau trigolion ein cymunedau. Bydd effaith ar amaethyddiaeth, yr amgylchedd, iechyd corfforol a meddyliol y boblogaeth ac ar werth eiddo. Byddwn yn ehangu ar hyn maes o law.
Mewn cyflwyniadau i’r Grid yn ystod yr ymgynghoriad, rydym wedi datgan ein barn a’n gwrthwynebiad yn glir ac yn gryf. Cafodd hynny ei anwybyddu, fel hefyd y cafodd barn ein AS, AC, y Cyngor Sir, cynghorau unigol ac unigolion. Anwybyddwyd hyn ganddynt, yn bennaf ar sail ariannol. Rydym yn llwyr o’r farn na fu’r broses ymgynghori yn deg; mae ymgynghori’n golygu gwrando, ystyried barn yn deg a gweithredu ar farn y mwyafrif. Methwyd gwneud hyn gan y Grid ar sail cost yn unig ac felly rydym yn hollol bendant na roddwyd clust i lais y bobol yr ydym yn eu cynrychioli.
Fel corff, rydym yn ymrwymedig i gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Nid yw hyn yn wir yn achos y Grid Cenedlaethol ond fe gredwn y dylent ystyried hyn yn eu trafodaethau. Ni wnaed hynny, a thrwy anwybyddu’r gofynion, dangoswyd amarch mawr i drigolion Ynys Môn a Chymru. Mynegodd sawl unigolyn a chyrff fod y Grid Cenedlaethol yn ymddwyn fel bwli sy’n mynnu cael ei ffordd ei hunan. Mae annhegwch y sefyllfa’n syfrdanol a’r rhwystredigaeth yn enfawr.
Mae gan UNLLAIS sylwadau perthnasol i’w cyflwyno mewn unrhyw wrandawiad cynllunio yn y dyfodol ac yn dymuno cyfle i wneud hynny.
”