Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 25/11/2018
Gan Bethan Wyn Jones

Sylw

Rwy'n gwrthwynebu'r cynlluniau i roi rhagor o beilonau ar draws Ynys Môn. Mae'r rhai sydd yma'n barod yn ddigon hyll. Ni chredaf fod angen rhagor ac maent yn difwyno ardal hardd. Ni chredaf fod yn rhaid i ni fel trigolion orfod dioddef hyn. Mewn rhannau eraill o'r wlad, maent wedi cael eu rhoi dan ddaear. Dylai hyn ddigwydd ym Môn hefyd.