Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.
Cysylltiad Gogledd Cymru
Gan Cyngorf Penmynydd a Star on behalf of GRAHAM OWEN (Clerc) (GRAHAM OWEN (Clerc))
Sylw
• Mae’r ardal yn un wledig, wedi ei lleoli yn Ne’r sir, ac yn brydferth ryfeddol, ac fel mae’r enw’n awgrymu, mewn man lled uchel. Mae’r golygfeydd oddi yno’n drawiadol. Byddai ychwanegu rhes arall o beilonau yn cael effaith sylweddol iawn ar y golygfeydd o’r fro ac i mewn i’r fro. Nid yw’r ffaith bod peilonau yn bodoli’n barod yn rheswm digonol dros osod ail res. Y cam rhesymol fyddai tan ddaearu’r rhes bresennol hefyd pan fo cyfle i wneud hyn. Mae’r aberth sylweddol a wneir gan drigolion Ynys Môn yn lletya gorsaf gynhyrchu anferthol yn cael ei hanwybyddu yn y broses o ystyried sut i drosglwyddo’r p?er ohoni; mae gwir farn y trigolion yn cael ei anwybyddu a’i ddiystyru.
• Ardal amaethyddol yw Penmynydd a Star sydd hefyd yn ddibynnol ar dwristiaeth. Byddai gosod ail res yn cael effaith ar y ddau ddiwydiant yma: mae amaethyddiaeth yn bwysig iawn i economi’r ardal hon ac Ynys Môn a byddai anawsterau sylweddol yn codi o osod ail res drwy dir ffermydd. Yn yr un modd, mae twristiaeth yn dod a dros chwarter biliwn, a mwy, o incwm i mewn i’r Sir hon yn flynyddol a byddai’r effaith ar y darpariaethau ar gyfer y diwydiant hwn eto’n ddifäol. Byddai’n un hir dymor, yn effeithio’n wael ar incwm y rhai sy’n dibynnu ar y ddau ddiwydiant am eu bywoliaeth dros drigain mlynedd a mwy. Nid yw defnydd y Grid Cenedlaethol o’r ddadl bod tan ddaearu’n rhy gostus yn rheswm dilys dros wrthod yr opsiynau eraill o’r cychwyn. Nid ydynt wedi ystyried, nac yn cydnabod, yr effaith cronnus tymor hir ar ein heconomi.
• Cred y Cyngor hwn yw bod ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol wedi bod yn ddiffygiol gan nad ydynt wedi gwir ystyried yr opsiynau eraill, sef tan ddaearu a mynd o dan y d?r; o’r cychwyn cyntaf, maen nhw wedi datgan mai ei ‘dewis opsiwn’ yw ail res. Mae pob sylw a datganiad gennym i’r gwrthwyneb wedi cael ei anwybyddu ganddynt.
• Er nad yw’n orfodol iddynt wneud hynny, mae’r Grid Cenedlaethol wedi dewis anwybyddu’n llwyr yr arweiniad a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) sydd yn cynnig arweiniad clir ar ystyried datblygiadau all gael effaith ar boblogaeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod.
• Mae ein hymchwil trylwyr yn arddangos nad yw’r Grid Cenedlaethol wedi dilyn polisïau’r Llywodraeth fel y’i hamlinellir yn EN-1 ac EN-2. Yn yr un modd, mae Deddf Cynllunio 2008 yn gofyn am ymgynghoriad manwl parthed effaith cronnus peilonau ar yr ardal a’r boblogaeth. Arian sydd wedi gyrru’r agenda yn yr achos hwn nid buddiannau pobl ein plwyf ni nac Ynys Môn.
Bydd y Cyngor hwn yn dymuno cyflwyno tystiolaeth bellach mewn unrhyw wrandawiad cynllunio maes o law.
”