Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 16/11/2018
Gan John Wyn Jones

Sylw

Gwrthwynebaf ar sail:
- byddai peilonau a gwifrau yn difwyno’r tirwedd ac anharddu’r golygfeydd,
- nid oes reswm digonol dros beidio â gosod y ceblau dan y môr, gan ei bod yn wybyddus fod y deyrnas gyfunol yn prynu trydan o Ffrainc [70Km o wifrau tanfor] ac o’r Iseldiroedd [260Km o wifrau tanfor] ac wedi ymrwymo i brynu o Norwy [drwy 730 Km o wifrau tanfor].
- Iechyd, mae fy nghartref o fewn 0.5Km i'r gwifrau osodwyd yn y 60'au, ac rwy'n bryderus fod meysydd electromagnetig a gynhyrchir gan foltedd uchel yn cael effaith andwyol ar iechyd y teulu a'r gymuned ehangach.