Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 12/11/2018
Gan Gwilym Morris

Sylw

Nid wyf o blaid ail res o beilonau. Rwy'n gwrthwynebu am y rhesymau canlynol:

* Bydd dwy res o beilonau yn cael effaith eithriadol ar welediad. Byddant yn anharddu'r golygfeydd am 60 mlynedd a mwy. Yn ei dro, bydd hynny yn cael effaith bendant ar y diwydiant twristiaeth a'r boblogaeth leol.

* Mae yna le i gredu y gall byw yn agos at beilonau gael effaith ar iechyd, er bod yna ddwy ddadl yma. Roedd dwy ddadl ynglyn ag ysmygu hanner can mlynedd yn ol ac fe wyddom y gwir am hynny rwan. Mae'r risg yn rhy enfawr i fentro codi mwy o beilonau uwchben y ddaear.

* Mae lle cryf i gredu y bydd yna effaith ar yr iaith Gymraeg.