Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 12/11/2018
Gan Tim Pritchard

Sylw

Rwyf yn gwrthwynebu'n gryf iawn y bwriad i godi ail res o beilonau ar draws Ynys Mon i gludo trydan o Wylfa newydd a hynny am y rhesymau canlynol:

1. Er nad yw wedi ei brofi'n llwyr a bod dwy farn, mae gen i bryderon gwirioneddol am effaith ar iechyd y boblogaeth. Mae Ynys Mon yn boblog a bydd llawer iawn o anneddau yn agos, neu hyd yn oed yn uniongyrchol o dan beilonau a gwifrau a bydd sawl cartref rhwng dwy res. Nid yw hyn yn sefyllfa iach.

2. Mae un rhes o beilonau yn cael effaith eithriadol ar welediad; byddai dwy yn hollol anioddefol. Byddai modd gweld rhain o AHNA ac o bob congl o'r Ynys o'r bron.

3. Bydd yr effaith a gaiff adeiladu gorsaf gynhyrchu trydan yn Ynys Mon yn effeithio'n sylweddol ar ein Sir. Mae'n anfaddeuol fod y Grid yn mynd i ychwanegu at hynny trwy fynnu gosod yr ail res uwchben y ddaear. Mae'r boblogaeth wedi datgan o'r cychwyn eu bod eisiau rhain o dan y ddaear neu yn danfor ond mae'r Grid wedi ein hanwybyddu. Mae'r ymgynhoriad wedi bod yn ffals iawn oherwydd hyn.