Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.
Cysylltiad Gogledd Cymru
Gan Jean Marshall
Sylw
* Mae tystilaeth a gwybodaeth eang am effaith peilonau ar iechyd yn enwedig iechyd plant.
Yn fuan wedi agor Wylfa a gosod y peilonau presennol yn nechrau 70au y ganrif ddiwethaf, bu fy merch fach, oedd ond yn 6 mis oed ar y pryd [redacted]. Roedd hi ar y pryd yn un o nifer o blant o Ynys Mon oedd yn cael triniaeth [redacted]. Ni fyddwn yn hoffi gweld unrhyw riant yn mynd trwy'r hyn ddioddefon ni fel teulu am flynyddoedd i ddod.
* Nid oes asesiad digonol nac ymgynghori wedi bod am effaith y peilonau ac felly nid yw'r Grid Cenedlaethol na Horizon wedi dilyn yr arweiniad yn Neddf Cynllunio 2008.
*Bydd peilonau ychwanegol yn niweidiol i olygfeydd cefn gwlad. Mae Ynys Mon yn Ardal o Harddwch Arbennig Neilltuol a byddai'n drychinebus difetha hyn.
* Yn dilyn y pwynt uchod, bydd peilonau ychwanegol yn niweidio iawn i'r diwydiant twristiaeth ar yr ynys. Mae diweithdra yn uchel iawn yma ac mae llawer o'r boblogaeth yn dibynnu ar dwristiaeth er mwyn ennill bywoliaeth.
* Mae'r bwriad i godi mwy o beilonau yn annheg ac yn anemocrataidd. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd ymgynghori ac fe fynychais pob un ohonynt. ym mhob achos roedd aelodau'r gymuned, cynghorwyr lleol ac Aelodau Seneddol i gyd yn gwrthwynebu'r peilonau. Dylid parchu barn trigolion a'r Senedd sy'n unfrydol y dylid tanddaearu yn hytrach na chodi mwy o beilonau.
* Roedd y Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi eu cynlluniau cyn cychwyn y broses ymgynghori ac felly roedd yr holl broses yn aneffeithiol ac annheg.
* Mae yna ddulliau eraill ar gael megis tanddaearu a mynd o dan y mor ac nid oes effeithiau negyddol o ddefnyddio'r rhain.
* Y ddadl gan y Grid Cenedlaethol yw'r gost o danddaearu. Ni ddylid rhoi unrhyw ystyriaeth o gwbl i hyn gan y bydd y GC yn gwneud elw sylweddol o Wylfa Newydd. Dylid edrych ar hyn fel cost y pen ar gyfer pob dinesydd y Deyrnas Unedig dros gyfnod o tua 60 mlynedd. Gellid gweld mai bychan iawn yw'r gost wrth wneud hyn.
”