Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 10/11/2018
Gan Irfon Price Morris

Sylw

Rwyf yn bryderus iawn y bydd adeiladu cyfres o beilonau newydd i gario gwifrau o safle Wylfa Newydd ar draws yr ynys yn hynod niweidiol i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr Ynys Môn. Mae effaith gweledol y set bresennol o beilonau yn sicr yn ddychrynllyd o hyll gan hagru a difetha golygfeydd i drigolion ac ymwelwyr. Byddai ychwanegu at hyn yn gwbl waradwyddus gan beryglu bywoliaeth gweithwyr y sector twristiaeth, cyfyngu ar ddatblygiad amaethyddiaeth, gostwng gwerth eiddo personol nifer o bobl yn nibrisiad eu heiddo gydag effaith cael peilonau hyll. Diystyrwyd y dadleuon hyn pan adeiladwyd y set cyntaf o beilonnau- byddai adeiladu ail set , a hynny pan fo opsiynnau eraill ar gael, yn ddirmyg llwyr- gormes Prydain o Lundain yn anwybyddu democratiaeth lleol Cyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru. Pa hawl sydd gan y grid i ddiystyrru Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - mae gennym ddyletswydd i'n plant a'n wyrion i ddiogelu'n gwlad . Rhowch y ceblau dan ddaear neu dan y môr a pheidiwch a bod mor farus i warchod eich buddiannau cyfalafol. Sut y gall y Grid Cenedlaethol ddweud fod rhoi'r ceblau dan y môr rhy gostus ac eto defnyddio yr un dechnoleg i brynu a ddod a thrydan o Ffrainc?