Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 08/11/2018
Gan Nerys Owen

Sylw


Mae Trosglwyddiad Trydan y Grid Cenedlaethol yn defnyddio presenoldeb un llinell o beilonau i gyfiawnhau un arall. Mae’n wybyddus fod y Gweinidog Gwladol yn trafod y posibilrwydd o adweithyddion ychwanegol yn yr Wylfa i’r rhai arfaethedig yn Wylfa Newydd. Os nad oes newid ym mholisi’r Llywodraeth, a does dim wedi ei gynllunio, bydd ail res yn cael ei defnyddio i gyfiawnhau trydedd neu bedwaredd res. Mae’n bryd cael datrysiad i’r unfed ganrif ar hugain.

Bydd peilonau yn niweidiol i olygfeydd cefn gwlad ddilychwin, yn arbennig golygfeydd mewnol, a golygfeydd o, Ardaloedd o Harddwch Arbennig Neilltuol.

Bydd peilonau ychwanegol yn niweidiol i’r diwydiant twristiaeth gan ddifa cefn gwlad a chreu tirwedd ddiwydiannol. Bydd peilonau’n effeithio ar amaethyddiaeth trwy achosi diffyg defnydd parhaol i dir a chyfyngu ar ddefnydd ohono. Bydd peilonau’n cael effaith negyddol ar bris eiddo, elfen mae’r Grid Cenedlaethol wedi ei diystyru’n llwyr. Bydd peilonau ychwanegol yn niweidiol i brif amcan Ofgem “i ddiogelu buddiannau defnyddwyr trydan presennol a’r dyfodol”.

Mae yna wybodaeth eang am effaith peilonau ar iechyd, gyda gwahaniaethau barn, fel yr ymchwil i dybaco yn y 1950’au a’r 60’au. Mae pryderon gwirioneddol, a barnau gwrthgyferbyniol, am yr effaith ar bobl ac anifeiliaid. Mae’n well bod yn ddiogel nag edifarhau a dweud na wrth beilonau.

Annheg ac anemoctrataidd – mae Ynys Môn a Chymru yn hunangynhaliol mewn egni. Bydd y peilonau yn bodoli’n bennaf i ddarparu p?er i dde ddwyrain Lloegr, yn groes i ddymuniad poblogaeth Ynys Môn a phob cynrychiolaeth ddemocrataidd yma.
Mae Cymru’n unigryw am fod ganddi Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; er nad yw’r Grid Cenedlaethol yn ymrwymedig i gymryd sylw ohoni y mae Cyngor Sir ynys Môn, a gallai'r Cyngor fod yn agored i her gyfreithiol. Mae peilonau’n gymynrodd gwael i’r dyfodol.

Mae technolegau eraill ar gael megis tanddaearu a mynd o dan y môr, ac nid oes effeithiau negyddol o ddefnyddio’r dulliau hyn.

Roedd yr ymgynghoriad yn aneffeithiol ac annheg gan fod y Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi eu cynlluniau cyn cychwyn y broses ac nid oedd yr ymgynghoriad statudol yn ystyried unrhyw ddewisiadau eraill.

Mae nifer sylweddol o enghreifftiau ble nad yw’r Grid Cenedlaethol wedi dilyn polisïau’r Llywodraeth fel y disgrifir yn EN-1 ac EN-5

Nid yw’r Grid Cenedlaethol na Horizon wedi dilyn yr arweiniad yn Neddf Cynllunio 2008, ac nid oes asesiad digonol nac ymgynghori wedi bod am effaith cronnus peilonau