Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 08/11/2018
Gan Idris Jones

Sylw

A oes wir angen ail lein i gario'r trydan? Pam ddim rhoi gwifrau newydd ar yr hen beilons? Pwy sydd wedi penderfynnu pa bryd mae angen lein sbar? Ffigyrau plis.

Mae Trosglwyddiad Trydan y Grid Cenedlaethol yn defnyddio presenoldeb un llinell o beilonau i gyfiawnhau un arall. Mae’n wybyddus fod y Gweinidog Gwladol yn trafod y posibilrwydd o adweithyddion ychwanegol yn yr Wylfa i’r rhai arfaethedig yn Wylfa Newydd. Os nad oes newid ym mholisi’r Llywodraeth, a does dim wedi ei gynllunio, bydd ail res yn cael ei defnyddio i gyfiawnhau trydedd neu bedwaredd res. Mae’n bryd cael datrysiad i’r unfed ganrif ar hugain.

Mae yna wybodaeth eang am effaith peilonau ar iechyd, gyda gwahaniaethau barn, fel yr ymchwil i dybaco yn y 1950’au a’r 60’au. Mae pryderon gwirioneddol, a barnau gwrthgyferbyniol, am yr effaith ar bobl ac anifeiliaid. Mae’n well bod yn ddiogel nag edifarhau a dweud na wrth beilonau.