Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.
Cysylltiad Gogledd Cymru
Gan Cyngor Bro Llanfairpwllgwyngyll
Sylw
Yn fras mae’r pryder yn cwmpasu:
• Anghyfiawnder cymdeithasol o anwybyddu adborth a buddiannau poblogaeth Môn drwy barhau i gynllunio cynllun peilonau sy’n gorfodi trigolion difreintiedig Môn i sybsideiddio arbedion/elw y Grid a defnyddwyr trydan gweddill y DU
• Diffyg manylder yng nglyn a’r cynlluniau i groesi’r Fenai sydd yn hollol allweddol i’r datblygiad. Os mai twnel dan y Fenai yw’r dewis terfynol nid oes unrhyw wybodaeth ar:
o Trafnidiaeth yn ystod y cyfnod adeiladu
o Gwaredu y spwriel o ganlyniad i’r gwaith
• Dim ystyriaeth o effaith y prosiect ar twristiaeth mewn ardal sydd yn ddibynol fwy na unrhyw ardal arall yn y DU ar y diwydiant yma.
• Dim ystyriaeth ar effaith y prosiect ar werth tir ac asedau trigolion yr Ynys
• Diffyg ystyriaeth o effaith iechyd tymor hir o beilonau yn gyfagos a chartrefi gan gynnwys EMF ac yn y blaen. Ar egwyddor dylir polisi rhagofal gael ei ddefnyddio os oes unrhyw ansicrwydd yng nglyn a ffactorau a gall gael effaith dwys ar genedlaethau y dyfodol
• Dim ystyriaeth o gydlunio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sydd yn holl bwysig gyda’r bwriad, gan ystyried:
o edrych ar bethau yn yr hirdymor yn ogystal â chanolbwyntio ar y sefyllfa ar hyn o bryd
o cymryd camau i geisio rhwystro problemau rhag gwaethygu - neu hyd yn oed eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Mae yn amlwg bod hyn yn cynnwys mabwysiadu polisi rhagofal yn hytrach na symyd ymlaen gyda syniadau sydd yn ddi ddychymyg ac yn deillio o oes llai oleuedig a gwybodus.
Fel aelodau etholiadol y Cyngor mae gennym bryder hefyd am y diffyg sylw i’r broses democratiaeth gyda ymgynghoriadau hollol gamarweiniol ac annidwyll. Y canlyniad yw bod barn pob aelod etholedig y Sir gan gynnwys Cynghorwyr Sir, ein Aelod Seneddol, Aelod y Cynulliad, yn ogystal a Chyngorau Bro a Chymuned a thrigolion Môn, wedi eu hanwybyddu yn llwyr.
”