Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 29/10/2018
Gan Dr Mair Edwards

Sylw

Mae Ynys Môn yn ardal sy'n denu pobl oherwydd ei phrydferthwch a'i golygfeydd. Bydd peilonau ychwanegol yn difrodi y golygfeydd ac yn hagru yr amgylchfyd. All hyn ddim bod yn dda i'r diwydiannau sydd mor ddibynnol ar dwristiaeth. A ninnau yn yr 21ain Ganrif mae'n rhaid bod gwell ffyrdd o drosglwyddo trydan na mewn gwifrau uwchben ddaear