Cysylltiad Gogledd Cymru

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Cysylltiad Gogledd Cymru

Derbyniwyd 18/10/2018
Gan Dafydd Roberts

Sylw

Hoffwn wneud sylw fel unigolyn, ond hefyd fel Cynghorydd Sir ward Bro Rhosyr sydd yn cynnwys Llanedwen.
Yn Llanedwen mae lleoliad agoriad y twnel arfaethedig dan y Fenai.
Mae pryderon lleol nad oes cynllun addas ar gyfer cludo’r deunydd a ddaw i’r wyneb o’r gweithgareddau twnelu.

Rhagwelir difrod i’r ffyrdd, a thagfeudd ac anhawster am fisoedd/ blynyddoedd.

Teimlir y dylai fod rhagor o ystyriaeth i symyd y deunydd ar y rheilffordd sydd yn gyfochrog a’r safle. Ni fu ymgynhori ar yr opsiwn hwn hyd y gwn i.