Beth fydd yn digwydd nesaf
Tynnwyd y cais hwn yn ôl gan yr Ymgeisydd.
Llinell amser (14 Eitemau)
Tynnwyd y prosiect hwn yn ôl ym mis Chwefror 2020. Fel y nodwyd yn yr adran gymorth ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, mae tudalen prosiect ar gael am flwyddyn ar ôl dyddiad ei dynnu’n ôl os gwnaed cais. O’r herwydd, pwrpas y faner hon yw tynnu sylw y byddwn yn tynnu’r prosiect oddi ar ein gwefan cyn bo hir.
Heddiw, mae’r Ymgeisydd, National Grid Electricity Transmission PLC, wedi tynnu’n ôl y cais yn ffurfiol. O ganlyniad, ni fydd unrhyw ystyriaeth bellach o’r cais gan yr Awdurdod Archwilio na’r Arolygiaeth Gynllunio. Mae llythyr yr Awdurdod Archwilio sy’n cadarnhau’r tynnu’n ôl wedi’i gyhoeddi.
Cyhoeddwyd cais yr Ymgeisydd am oedi’r Cyfarfod Rhagarweiniol, a llythyr yr Awdurdod Archwilio yn gwahodd sylwadau ar y cais.
Mae’r Awdurdod Archwilio wedi defnyddio ei ddisgresiwn i dderbyn Cynrychioliad Perthnasol Hwyr gan Maritime and Coastguard Agency i’r Archwiliad. Mae’r dogfen hyn wedi’u hychwanegu at y Llyfrgell Archwiliad.
Mae’r Awdurdod Archwilio wedi defnyddio ei ddisgresiwn i dderbyn Cyflwyniadau Ychwanegol yr Ymgeisydd a Chynrychioliad Perthnasol Hwyr gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i’r Archwiliad. Mae’r dogfennau hyn wedi’u hychwanegu at y Llyfrgell Archwiliad.
Derbyniwyd y cais hwn gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar 7 Medi 2018.
Mae’r ymgeisydd wedi cytuno y gellir cyhoeddi pob dogfen gais cyn gynted ag sy’n ymarferol i helpu pawb i ddod yn gyfarwydd â manylion yr hyn a gynigir yn y cais hwn. Felly, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn sicrhau bod dogfennau’r cais ar gael cyn gynted â phosib.
Mae’r ddarpariaeth hon yn unig er mwyn caniatáu mwy o amser i bawb sy’n dymuno dod yn gyfarwydd â manylion yr hyn sy’n cael ei gynnig cyn y cyfnod cynrychiolaeth berthnasol heb ymestyn yr amser cyffredinol sy’n ofynnol ar gyfer y broses ymgeisio. Ni fydd cyfle ar hyn o bryd i wneud sylwadau ar y cais. Fodd bynnag, os derbynnir y cais, bydd unrhyw un sydd â diddordeb yn y cais yn gallu cofrestru a mynegi eu barn yn ystod y cam cynrychiolaeth berthnasol a’r arholiad dilynol.
Mae digwyddiad allgymorth cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth am y broses caniatâd datblygu yn cael ei gynnal yn Llangefni ar ddydd Mawrth 4 Hydref, 2016. Mae hwn yn ddigwyddiad ychwanegol a fydd yn cynnwys gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na lwyddwyd i’w ddarparu yn flaenorol.
Mae digwyddiad allgymorth cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth am y broses caniatâd datblygu yn cael ei gynnal yn Llangefni ar ddydd Mawrth 6 Medi 2016. Cyfeiriwch at y poster digwyddiad cyhoeddus am fanylion pellach.