Beth fydd yn digwydd nesaf
Gwnaed penderfyniad ar y cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer ar ac mae wedi’i gyhoeddi erbyn hyn.
Diffinnir y cyfnod ar gyfer her gyfreithiol yn a118 Deddf Cynllunio 2008. Ceir rhagor o wybodaeth am herio cyfreithiol yn y llythyr a anfonir at bob Parti â Buddiant ynghyd â phenderfyniad a datganiad o resymau’r Ysgrifennydd Gwladol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y broses, anfonwch neges e-bost at yr Arolygiaeth Gynllunio:[email protected] neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0303 444 5000.
Llinell amser (16 Eitemau)
Mae Llythyr Penderfyniad (PDF, 242 KB) a Gorchymyn Diwygio (PDF, 44 KB) wedi cael eu cyhoeddi gan Weinidog Newid Hinsawdd Cymru i wneud newid nad yw’n sylweddol i Orchymyn Caniatâd Datblygu Gorsaf Cynhyrchu Storio Pwmpio Glyn Rhonwy 2017 (PDF, 632 KB)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu gwybodaeth bellach (PDF, 137 KB) mewn ymateb i lythyr Llywodraeth Cymru ar 24 Tachwedd 2023.
Mae’r Ymgeisydd wedi darparu wybodaeth bellach (PDF, 5 MB) mewn ymateb i lythyr Llywodraeth Cymru ar 15 Tachwedd 2023.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am wybodaeth bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru (PDF, 128 KB) mewn perthynas â gwybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd.
Mae’r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r cais am newid nad yw’n sylweddol i Orchymyn Caniatâd Datblygu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy wedi’u cyhoeddi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am wybodaeth bellach gan Snowdonia Pumped Hydro Limited (PDF, 176 KB) mewn perthynas â’r gynrychiolaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae cais am newid ansylweddol i Orchymyn Caniatâd Datblygu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy wedi’i wneud gan Snowdonia Pumped Hydro Limited.
Os hoffech wneud sylw, dylid ei e-bostio i [email protected] neu ei bostio i:
The Glyn Rhonwy Case Team
The Planning Inspectorate
Temple Quay House
2 The Square
Bristol
BS1 6PN
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 10 Tachwedd 2023
Mae’r dogfennau archwiliad sy’n ymwneud â’r prosiect hwn wedi’u harchifo ac nid ydynt ar gael ar y wefan hon mwyach. Gellir gweld penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol a Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar y tab Dogfennau.
I ddarganfod ble i weld y Dogfennau Ardystiedig, cyfeiriwch at y manylion cyswllt a nodir yn Nodyn Esboniadol y Gorchymyn Caniatâd Datblygu.
Pum mlynedd ar ôl cyhoeddi penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, caiff yr holl ddogfennau cyhoeddedig sy’n weddill sy’n gysylltiedig â chais eu tynnu oddi ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, ac eithrio’r canlynol a gedwir yn unol â’n cadw dogfennau polisi:
- Rhybudd penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol a’i ddatganiad o resymau;
- Os caiff ei wneud, y Gorchymyn Caniatâd Datblygu;
- Adroddiad Argymhelliad yr Awdurdod Archwilio ac atodiadau cysylltiedig;
- Unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â cheisiadau newid materol / ansylweddol;
- Unrhyw hysbysiadau cywiro; a
- Pob cyngor adran 51 a gyhoeddir mewn perthynas â chais.
O’r herwydd, pwrpas y faner hon yw tynnu sylw y byddwn yn dileu pob dogfen yn fuan, ac eithrio’r rhai a restrir uchod.
- Cynhelir y Cyfarfod Rhagarweiniol
- Yr archwiliad yn dechrau