Trawsgrifiad fideo: Sut i leisio eich barn ar Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol

Mae’r fideo hwn yn esbonio sut gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan a lleisio eu barn yn y drefn caniatâd datblygu ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Cyn i chi barhau â’r fideo hwn, byddem yn argymell eich bod yn gwylio ein fideo ar y broses chwe cham.

Mae Deddf Cynllunio 2008 yn diffinio ac yn sefydlu proses ar gyfer archwilio Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, a fyddai wedi cael eu caniatáu gynt gan wahanol adrannau’r llywodraeth.

Mae’r angen am y cynlluniau hyn wedi’i sefydlu mewn Datganiadau Polisi Cenedlaethol, a diben y broses yw pwyso a mesur effeithiau lleol y cynllun yn erbyn yr angen cenedlaethol am seilwaith tebyg mewn modd teg, agored a diduedd.

Bydd ein harolygwyr, sy’n ffurfio’r hyn sy’n cael ei alw’n Awdurdod Archwilio wrth ystyried prosiectau, yn gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol ynghylch p’un a ddylid rhoi caniatâd i’r cynlluniau hyn ai peidio.

Y cam Cyn gwneud cais

Mae’n bwysig eich bod yn ymgysylltu â’r ymgeisydd yn ystod y cam hwn tra mae’r cynllun yn cael ei lunio.

Er y gallech wrthwynebu’r cynllun mewn egwyddor, mae’r cam hwn yn gyfle i chi ei lunio drwy awgrymu, er enghraifft, dyluniadau neu gynlluniau amgen, neu ffyrdd i leihau effaith traffig ychwanegol.

Bydd yr ymgeisydd yn cyhoeddi sut y bydd yn ymgynghori â chi ac yn rhoi gwybod i chi lle bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal a faint o amser fydd gennych i ymateb i’r ymgynghoriad.

Cadwch olwg am hysbysebion mewn papurau newydd lleol, ar wefan yr ymgeisydd ac mewn mannau cyfarfod yn y gymuned leol am wybodaeth am sut i gymryd rhan.

Y cam Cyn yr Archwiliad

Os bydd cais yn cael ei dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio, gallwch gofrestru i gymryd rhan yn yr Archwiliad fel Parti â Buddiant.

Rhaid i chi gofrestru’n Barti â Buddiant i gymryd rhan yn yr Archwiliad.

Y ffordd hawsaf i gofrestru yw drwy lenwi’r ffurflen ar ein gwefan.

Bydd angen i chi roi crynodeb o’ch safbwyntiau wrth i chi gofrestru, ond cewch eich gwahodd i wneud sylwadau pellach yn nes ymlaen yn y broses ar ôl i chi gofrestru.

Wrth gofrestru, meddyliwch am bwy y byddwch yn eu cynrychioli yn ystod yr Archwiliad.

Wrth gwrs, gallwch gynrychioli eich buddiannau eich hun a’ch teulu.

Gallwch gymryd rhan yn effeithiol fel aelod o grŵp neu arweinydd grŵp hefyd.

Y prif beth i’w gofio yw mai ansawdd y wybodaeth, yn hytrach na’r nifer o weithiau y bydd yn cael ei chyflwyno, yw’r ffordd fwyaf effeithiol i gymryd rhan.

Dyma lun o dudalen prosiect nodweddiadol.

Efallai yr hoffech osod y dudalen hon fel ffefryn, gan mai dyma fydd canolbwynt yr Archwiliad lle bydd holl ddogfennau’r ymgeisydd ar holl sylwadau ar gael.

Dyma le byddwch yn gwneud eich Sylwadau Perthnasol.

Mae’r ffurflen yn cynnwys yr holl fanylion sydd eu hangen arnom i gadw mewn cysylltiad â chi yn ystod yr Archwiliad.

Ni fyddwch yn gallu cyflwyno sylwadau heb lenwi’r meysydd hyn.

Dylech roi eich sylwadau yn y blwch hwn.

Ar ôl i chi glicio cyflwyno, gyda sylwadau sy’n amlinellu eich safbwyntiau ar y cynllun, byddwch yn Barti â Buddiant ac yn cael gwybod am gynnydd y cynllun arfaethedig.

Cam yr Archwiliad

Bydd Amserlen yr Archwiliad, a fydd yn cael ei bennu yn y cyfarfod Rhagarweiniol, yn rhoi’r holl ddyddiadau cau ar gyfer cyflwyno sylwadau.

Dylech gyflwyno eich sylwadau mewn da bryd cyn y dyddiad cau hwn.

Eich prif gyflwyniad fydd eich Sylwadau Ysgrifenedig, y bydd gofyn i chi eu cyflwyno’n gymharol gynnar yn ystod y cyfnod archwilio.

Os byddwch yn anghytuno â’r hyn y mae parti arall wedi’i ddweud, byddwch yn cael cyfle i ddweud hynny drwy roi sylwadau ar eu cyflwyniad.

Fel Parti â Buddiant, bydd gennych hawl i siarad mewn gwrandawiadau hefyd a chyflwyno crynodeb ysgrifenedig o’r hyn y gwnaethoch ei ddweud ar ôl y gwrandawiad.

Mae tri math o wrandawiad y gellir eu cynnal.

Gwrandawiad yn ymwneud â materion penodol, gwrandawiad llawr agored a gwrandawiad caffael gorfodol.

Mae’n bosibl y cewch eich gwahodd i’r gwrandawiadau hyn, a gallwch eu mynychu os ydynt yn berthnasol i chi.

Wrth wneud sylwadau, dylech eu seilio ar eich profiad o’r ardal leol a sut rydych chi’n credu bydd y cynnig yn effeithio arnoch chi ac, os yw’n bosibl, rhoi tystiolaeth i gefnogi eich sylwadau.

Cam yr Argymhelliad a’r Penderfyniad

Pan fydd yr Archwiliad chwe mis wedi dod i ben, byddwch yn cael gwybod ei fod wedi cau.  Wedi hynny, ni fydd yr Awdurdod Archwilio’n gallu derbyn unrhyw gyflwyniadau pellach.

Bydd gan yr Awdurdod Archwilio dri mis i ysgrifennu ei argymhelliad a’i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol.

Yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar gyfer pob Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dri mis i benderfynu a yw am ddilyn argymhelliad yr Awdurdod Archwilio ai peidio, a gwneud penderfyniad.

Felly, i grynhoi, ymgysylltwch â’r ymgeisydd yn gynnar i lunio’r cynllun.

Cofrestrwch â ni fel Parti â Buddiant o fewn yr amser a roddir neu ymunwch â grŵp sydd wedi gwneud hynny.

Os na fyddwch yn gwneud hynny, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn yr Archwiliad.

Gwnewch eich sylwadau mewn ffordd sy’n rhoi cymaint o wybodaeth ag y bo modd am effeithiau’r cynllun, wedi’i seilio ar ffeithiau a phrofiad.

Byddwch yn wrthrychol yn hytrach nag yn oddrychol, a rhowch dystiolaeth lle bo hynny’n bosibl.

Rwy’n gobeithio y bu’r fideo hwn o gymorth i chi.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan infrastructure.planninginspectorate.gov.uk, gan gynnwys llawer o nodiadau cyngor defnyddiol.

Fel arall, gallwch gysylltu â gwasanaethau cwsmeriaid drwy ffonio 0303 444 5000 neu drwy anfon neges e-bost at [email protected]