Mae’r fideo hwn yn esbonio rôl awdurdodau lleol yn y drefn caniatâd datblygu ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, sydd hefyd yn cael eu galw’n NSIPau.
Mae’r drefn caniatâd datblygu’n broses y mae’n rhaid i ddatblygwyr fynd drwyddo wrth geisio cael caniatâd i adeiladu Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Bydd eich awdurdod yn chwarae rôl hanfodol mewn archwilio’r cynlluniau hyn.
Er nad yw awdurdodau lleol yn penderfynu a fydd y cynlluniau hyn yn mynd rhagddynt ai peidio, mae tystiolaeth a barn eich awdurdod yn helpu i’w ffurfio.
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei hystyried yn ofalus gan arolygydd, neu banel o arolygwyr, a benodwyd o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio i ystyried y cais a gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol.
Ar y cam hwn, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n ymgynghori â’ch awdurdod ar Adroddiad Cwmpasu’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.
Byddwn yn ysgrifennu atoch, a bydd gennych 28 diwrnod i wneud sylwadau.
Os yw’r cynnig wedi’i leoli o fewn ffiniau eich awdurdod, bydd yr ymgeisydd yn ymgynghori â chi am y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned.
Mae’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned yn amlinellu sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu ymgynghori â’r gymuned.
Bydd hwn yn gyfle allweddol i’ch awdurdod roi cyngor i’r ymgeisydd, gan ddefnyddio eich gwybodaeth leol, am sut i gynnal yr ymgynghoriad.
Hefyd ar y cam hwn, bydd yr ymgeisydd yn cynnal ymgynghoriad statudol â’ch awdurdod, cyrff statudol, Unigolion yr Effeithir Arnynt a’r gymuned leol am y cynllun ei hun.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi eich cyfrifoldebau dirprwyedig ar waith mewn da bryd cyn i’r cais gael ei gyflwyno.
Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd ystyried unrhyw ymatebion perthnasol y bydd yn eu cael yn ystod ei ymgynghoriad statudol.
Pan fydd cais yn cael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio, rhaid i ni benderfynu cyn pen 28 diwrnod a yw’r holl ddogfennau perthnasol wedi’u cyflwyno i alluogi’r cais i fynd yn ei flaen.
Yn rhan o hyn, byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol roi datganiad ar ddigonolrwydd ymgynghoriad yr ymgeisydd, cyn pen 14 diwrnod o dderbyn y cais, fel arfer.
Rydym bob amser yn ceisio rhoi pythefnos o rybudd i chi i’ch galluogi i gyflwyno’r datganiad hwn yn brydlon.
Os byddwn yn gwrthod y cais, bydd gan yr ymgeisydd gyfnod o chwe wythnos i gyflwyno her gyfreithiol.
Os byddwn yn derbyn y cais, bydd y broses yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Gan ddibynnu ar ddewis yr Ymgeisydd, bydd dogfennau’r cais naill ai wedi’u cyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol ar ôl derbyn y cais, neu’n syth ar ôl y penderfyniad i dderbyn y cais.
Yn ystod y cam cyn yr ymchwiliad, rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddi bod y cais wedi’i dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio a chynnwys manylion am bryd a sut y gall partïon gofrestru i gymryd rhan yn yr Archwiliad fel Partïon â Buddiant.
Os ydych chi’n awdurdod lletyol, byddwch chi wedi’ch cofrestru’n Barti â Buddiant fel mater o drefn.
Fodd bynnag, os ydych chi’n awdurdod cyfagos, rhaid i chi gofrestru’n Barti â Buddiant os hoffech gymryd rhan yn yr Archwiliad.
Dylai awdurdodau lletyol ac awdurdodau cyfagos gyflwyno Sylwadau Perthnasol drwy ein gwefan er mwyn i ni allu asesu’r materion cychwynnol sy’n berthnasol i’r cynllun.
Mae hefyd yn ein helpu i sicrhau bod gennym eich manylion cyswllt cyfredol.
Mae’r cyfnod amser ar gyfer cofrestru yn cael ei bennu gan yr ymgeisydd, ond ni ddylai fod yn llai na 30 diwrnod ar gyfer datblygiad Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.
Yna, bydd Cyfarfod Rhagarweiniol yn cael ei gynnal i drafod materion gweithdrefnol ac amserlen ar gyfer yr archwiliad.
Bydd diwedd y Cyfarfod Rhagarweiniol yn nodi diwedd y cyfnod cyn yr archwiliad.
Mae cam yr Archwiliad yn dechrau y diwrnod ar ôl i’r Cyfarfod Rhagarweiniol ddod i ben.
Fel rhan o’r broses archwilio, bydd yr Awdurdod Archwilio’n gwahodd eich awdurdod i gyflwyno Adroddiad ar yr Effaith Leol.
Efallai yr hoffai’ch awdurdod ddefnyddio’r cam Cyn gwneud cais, sef cam cyntaf y broses, i ddechrau gweithio ar yr Adroddiad ar yr Effaith Leol, gan y bydd y dyddiad cau ar gyfer ei dderbyn yn cael ei bennu’n gynnar yn yr Archwiliad.
Dylai’r adroddiad hwn asesu effeithiau posibl y cynllun yn wrthrychol, a chynnig tystiolaeth o nodweddion yr ardal.
Yn ystod yr Archwiliad, bydd pob Parti â Buddiant, gan gynnwys eich awdurdod, yn cael ei wahodd i gyflwyno Sylwadau Ysgrifenedig, ymateb i gwestiynau’r Awdurdod Archwilio a rhoi sylwadau ar gyflwyniadau eraill.
Byddwch yn cael eich gwahodd i wrandawiadau ac ymweliadau safle hefyd.
Gallwch ddefnyddio eich Sylwadau Ysgrifenedig i fynegi barn eich awdurdod am y cais.
Rydych yn cael eich annog i gydweithio â’r ymgeisydd â chyrff statudol i lunio Datganiadau o Dir Cyffredin, i amlinellu meysydd lle mae cytundeb rhwng eich awdurdod, yr ymgeisydd ac eraill.
Ni fyddwn yn derbyn cyflwyniadau ar ôl i gam yr Archwiliad ddod i ben.
Yn ystod y cam hwn, bydd gan yr Awdurdod Archwilio dri mis i ysgrifennu ei argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol.
Yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar gyfer pob Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dri mis i benderfynu a yw am roi caniatâd ai peidio.
Cam olaf y broses yw’r cam Ar ôl gwneud penderfyniad.
Mae’n rhoi cyfnod o chwe wythnos i’r ymgeisydd, unrhyw Barti â Buddiant, awdurdod lleol neu unrhyw un arall gyflwyno her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol.
Yn gryno, mae gan eich awdurdod rôl hanfodol i’w chwarae ym mhroses y drefn caniatâd datblygu.
Rydych yn cael eich annog i ymgysylltu â’r ymgeisydd, yn ogystal â’r Arolygiaeth Gynllunio, ar adegau allweddol drwy gydol y broses.
Mae mwy o wybodaeth i’w gweld ar ein gwefan infrastructure.planninginspectorate.gov.uk, gan gynnwys llawer o nodiadau cyngor defnyddiol.
Gallai nodiadau cyngor un, tri, saith, wyth a phedair ar ddeg fod o ddiddordeb penodol i chi.
Fel arall, gallwch gysylltu â gwasanaethau cwsmeriaid drwy ffonio 0303 444 5000 neu drwy anfon neges e-bost at [email protected]