Mae chwe cham i’r drefn caniatâd datblygu ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, sydd hefyd yn cael eu galw’n NSIPau.
Mae’r drefn caniatâd datblygu’n broses y mae’n rhaid i ddatblygwyr ei dilyn wrth geisio cael caniatâd i adeiladu Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Mae Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn cynnwys gorsafoedd cynhyrchu ynni fel ffermydd gwynt a gorsafoedd pŵer, llinellau trydan fel llinellau pŵer a pheilonau newydd, prosiectau trafnidiaeth fel adeiladu ffyrdd neu reilffyrdd, gwastraff a dŵr fel adeiladu cronfa ddŵr neu waith trin dŵr gwastraff, piblinellau er enghraifft i gludo nwy naturiol rhwng gorsaf bŵer a’r rhwydwaith trosglwyddo cenedlaethol.
Y ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n sail i’r drefn caniatâd datblygu yw Deddf Cynllunio 2008.
Mae chwe cham i broses Deddf Cynllunio 2008.
Ar y cam Cyn gwneud cais, yr ymgeisydd sydd wrth wraidd y broses ac sy’n gwbl gyfrifol am ddatblygu’r prosiect.
Mae ymgeisydd yn debygol o fod yn ddatblygwr mawr, yn un o asiantaethau’r llywodraeth neu’n gyngor lleol, o bosibl.
Mae’r drefn caniatâd datblygu’n broses dechrau dwys.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r cynnig datblygu gael ei gwmpasu a’i fireinio’n llawn cyn cyflwyno cais i’r Arolygiaeth Gynllunio.
Ar y cam hwn, rhaid i’r ymgeisydd ymgynghori’n ffurfiol â phob corff statudol, awdurdod lleol, y gymuned leol ac unrhyw bobl yr effeithir arnynt.
Os yw eich tir yn destun Caffael Gorfodol, byddwch chi’n Unigolyn yr Effeithir Arno a byddwch yn cael eich hysbysu gan yr ymgeisydd.
Ar ôl i gais gael ei gyflwyno, ychydig iawn o gyfle fydd i’w newid.
Felly, dylai’r rhai sydd am ddylanwadu ar unrhyw gynnig ymgysylltu â’r ymgeisydd yn ystod y cam hwn pan fydd yr ymgeisydd yn hysbysebu ei ymgynghoriad.
Fel arfer, byddwch yn ymateb i’r ymgynghoriad drwy’r e-bost, ar wefan yr ymgeisydd neu mewn digwyddiad ymgynghori.
Dylech wneud hyn o fewn y terfyn amser sydd wedi’i bennu yn y deunydd cyhoeddusrwydd.
Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd ystyried unrhyw ymatebion perthnasol a geir yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol.
Gall y cam Cyn gwneud cais bara faint bynnag o amser sydd ei angen, a bydd yn cael ei arwain gan yr ymgeisydd.
Ar ôl y cam Cyn gwneud cais, daw’r cam Derbyn.
Bryd hynny, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n symud i wraidd y broses.
Bydd yr ymgeisydd yn cyflwyno’r cais yn ffurfiol i’r Arolygiaeth Gynllunio.
Rhaid i ni benderfynu cyn pen 28 diwrnod a yw’r holl ddogfennau perthnasol wedi’u cyflwyno i alluogi’r cais i fynd yn ei flaen.
Os byddwn yn gwrthod y cais, bydd gan yr ymgeisydd gyfnod o chwe wythnos i gyflwyno her gyfreithiol.
Os byddwn yn derbyn y cais, bydd y broses yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Gan ddibynnu ar ddewis yr Ymgeisydd, bydd dogfennau’r cais naill ai wedi’u cyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol ar ôl derbyn y cais, neu’n syth ar ôl y penderfyniad i dderbyn y cais.
Yn ystod y cam cyn yr ymchwiliad, rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddi bod y cais wedi’i dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio a chynnwys manylion am bryd a sut y gall partïon gofrestru i gymryd rhan yn yr Archwiliad fel Partïon â Buddiant.
Mae’r cyfnod amser ar gyfer cofrestru yn cael ei bennu gan yr ymgeisydd, ond ni ddylai fod yn llai na 28 diwrnod.
Oddi mewn i’r Arolygiaeth Gynllunio, bydd arolygydd neu banel o arolygwyr, yn cael ei benodi’n Awdurdod Archwilio.
Yna, bydd Cyfarfod Rhagarweiniol yn cael ei gynnal i drafod materion gweithdrefnol ac amserlen ar gyfer yr Archwiliad.
Bydd pob Parti â Buddiant yn cael gwybod am ddyddiad y Cyfarfod Rhagarweiniol.
Ar ôl i’r Cyfarfod Rhagarweiniol ddod i ben, bydd pob parti’n cael gwybod am Amserlen yr Archwiliad.
Bydd diwedd y Cyfarfod Rhagarweiniol yn nodi diwedd y cyfnod cyn yr archwiliad.
Mae cam yr Archwiliad yn dechrau y diwrnod ar ôl i’r Cyfarfod Rhagarweiniol ddod i ben.
Ar y cam hwn, bydd yr Awdurdod Archwilio’n archwilio’r cais, a rhaid i’r Archwiliad gael ei gwblhau cyn pen chwe mis.
Mae’r Archwiliad yn cael ei gynnal drwy sylwadau ysgrifenedig yn bennaf; fodd bynnag, gellir cynnal gwrandawiadau hefyd.
Bydd y rhain yn cael eu cynnal mewn modd holgar, fel arfer.
Mae gan bob Parti â Buddiant hawl i wneud sylwadau llafar am y cais.
Yn ystod y cam hwn, mae gan yr Awdurdod Archwilio dri mis i ysgrifennu ei argymhelliad a’i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol.
Yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar gyfer pob Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dri mis i benderfynu a yw am roi caniatâd ai peidio.
Cam olaf y broses yw’r cam Ar ôl gwneud penderfyniad.
Mae hwn yn rhoi cyfnod o chwe wythnos i’r ymgeisydd, unrhyw Barti â Buddiant neu unrhyw un arall gyflwyno her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol.
Mae mwy o wybodaeth i’w gweld ar ein gwefan infrastructure.planninginspectorate.gov.uk, gan gynnwys llawer o nodiadau cyngor defnyddiol.
Fel arall, gallwch gysylltu â gwasanaethau cwsmeriaid drwy ffonio 0303 444 5000 neu drwy anfon neges e-bost at [email protected].