Fferm Wynt Alltraeth Mona

Nid safbwyntiau’r Arolygiaeth Gynllunio yw’r rhai a fynegir ar y dudalen hon. Yr hyn a ddangosir yma yw cynnwys a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, sy’n rhoi eu barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Fferm Wynt Alltraeth Mona

Derbyniwyd 03/05/2024
Gan Cyngor Sir Ynys Mon

Sylw

Mae Cyngor Sir Ynys Môn (y Cyngor) yn cadarnhau ei fod yn dymuno cael ei adnabod fel Parti â Buddiant i gymryd rhan yn yr archwiliad o gais Fferm Wynt ar y Môr Mona am Orchymyn Caniatâd Datblygu (GCD). Mae'r gynrychiolaeth hon yn rhoi trosolwg o'r materion allweddol sydd o ddiddordeb i'r Cyngor mewn perthynas â'r prosiect arfaethedig ac yn rhoi amlinelliad cychwynnol o'n sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r materion o ddiddordeb. - Morlun, Tirwedd ac Effeithiau Gweledol Ar ôl adolygu'r Datganiad Amgylcheddol (ES), mae'r Cyngor yn cadarnhau ei fod yn fodlon gyda'r asesiad o'r effaith ar y Dirwedd a derbynyddion Gweledol mewn perthynas â'r effaith bosibl ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn a Llwybr Arfordir Cymru. Mae'r Cyngor yn cadarnhau ei fod hefyd yn fodlon bod yr effeithiau posibl wedi'u lliniaru cyn belled ag y bo modd i fynd i'r afael a’r effeithiau a ragwelir ar gyfer y prosiect, gan gynnwys effeithiau cronnol. - Cyfleoedd a buddion economaidd-gymdeithasol Mae'r DA yn cadarnhau bod gan y prosiect y potensial i ysgogi effeithiau economaidd buddiol i Ogledd Cymru trwy greu swyddi a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi. Trwy gydol ei ymgysylltiad cyn ymgeisio â'r ymgeisydd, mae'r Cyngor wedi cadarnhau'r angen i'r cais am GCD i adnabod chadarnhau sut y bydd y prosiect yn sicrhau y mwyaf o gyfleoedd swyddi, sgiliau a chadwyn gyflenwi lleol a rhanbarthol. Mae trafodaethau wedi tanlinellu pwysigrwydd ymgysylltu'n gynnar ac yn rhagweithiol â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys darparwyr addysg uwch a'r gadwyn gyflenwi leol a rhanbarthol i ddiffinio anghenion sgiliau a chadwyn gyflenwi y prosiect ac i fod yn rhagweithiol er mwyn sicrhau aliniad a fod cyfleoedd yn cael eu manteisio arnynt er mwyn sicrhau'r manteision economaidd-gymdeithasol mwyaf. Mae'r Cyngor yn croesawu fod Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Amlinellol wedi ei gyflwyno fel rhan o'r cais GCD sy'n amlinellu'r dull arfaethedig o weithio gyda rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r prosiect. Mae'r Cyngor hefyd yn croesawu'r gofyniad (gofyniad 19 o'r GCD drafft) sy'n gofyn am gymeradwyo Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth manwl terfynol. Mae'r Cyngor yn bwriadu rhoi sylwadau ar y Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Amlinellol yn uniongyrchol i'r ymgeisydd a bydd yn diweddaru'r Arolygiaeth Gynllunio ar yr adeg briodol mewn perthynas â'i safbwynt ynghylch y Cynllun. Croesawir bod Porthladd Caergybi wedi'i gynnwys ar y rhestr hir o borthladdoedd posibl ar gyfer y camau adeiladu/datgomisiynu a gweithredu a chynnal a chadw. Mae'r Cyngor yn argymell bod ymgysylltu yn parhau gyda’r gweithredwr Porthladd i ganfod sut y gall y Porthladd gefnogi datblygu a chyflawni’r prosiect, a fydd yn ei dro yn sicrhau manteision lleol ychwanegol ac ystyrlon. Mae Cais Porthladd Rhydd ar y cyd rhwng y Cyngor a Stena Line wedi bod yn llwyddiannus yn ddiweddar. Mae'r Cyngor yn hyderus y bydd statws Porthladd , trwy ei hwylustod economaidd a'i hawddfreintiau rheoleiddio disgwyliedig, yn creu amgylchedd busnes sy'n apelio i fuddsoddwyr a busnesau posibl yn y sector ynni. Mae'r Cyngor yn cadarnhau ei fod yn dymuno parhau i ymgysylltu â'r ymgeisydd i nodi sut y gall Porthladd Rhydd Ynys Môn fod o fudd i'r prosiect a sicrhau manteision economaidd-gymdeithasol hirdymor a gwerth chweil i'r Ynys a rhanbarth ehangach Gogledd Cymru.
Atodiad 1
Atodiad 1