Beth fydd yn digwydd nesaf
Tynnwyd y cais hwn yn ôl gan yr Ymgeisydd.
Llinell amser (58 Eitemau)


Yn dilyn tynnu’r cais yn ôl yn ddiweddar, ac er budd didwylledd a thryloywder, rydym wedi penderfynu cyhoeddi Adroddiad Argymhelliad yr Awdurdod Archwilio (PDF, 17MB).

Mae’r Cais wedi’i dynnu’n ôl. Gweler Gweler llythyr yr Ymgeisydd (PDF, 355KB).
Gweler gwefan yr Ymgeisydd am ragor o wybodaeth.
Nid oes unrhyw gamau pellach i’r Ysgrifennydd Gwladol eu cymryd ynglŷn â’r Cais.

Ar ôl cael y llythyr dyddiedig 18 Rhagfyr 2020 oddi wrth Horizon Nuclear Power Wylfa Limited (PDF, 341 KB) yn gofyn am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ar y cais am Orchymyn Wylfa Newydd (Gorsaf Gynhyrchu Niwclear), mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu ailosod y dyddiad cau statudol ar gyfer y cais hwn ar 30 Ebrill 2021 (PDF, 85 KB).
Bydd datganiad yn cadarnhau’r dyddiad cau newydd ar gyfer penderfyniad yn cael ei wneud i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn unol ag adran 107(7) o Ddeddf Cynllunio 2008 cyn gynted â phosibl.

Ar ôl cael y llythyrau dyddiedig 22 Medi 2020 a 28 Medi 2020 (PDF, 424KB) oddi wrth Horizon Nuclear Power Wylfa Limited yn gofyn am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ar y cais am Orchymyn Wylfa Newydd (Gorsaf Cynhyrchu Niwclear), mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu ailosod y dyddiad cau statudol ar gyfer y cais hwn ar 31 Rhagfyr 2020 (PDF, 223KB).
Bydd datganiad yn cadarnhau’r dyddiad cau newydd ar gyfer penderfyniad yn cael ei wneud i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn unol ag adran 107(7) o Ddeddf Cynllunio 2008 cyn gynted â phosibl.

Y dyddiad cau ar gyfer y penderfyniad ar y cais am Orchymyn arfaethedig Wylfa Newydd (Gorsaf Ynni Niwclear) oedd 23 Hydref 2019 ond ailbennwyd y dyddiad cau hwnnw i 31 Mawrth 2020 er mwyn caniatáu i ragor o wybodaeth am effeithiau amgylcheddol a materion eraill a oedd heb eu datrys gael ei darparu a’i hystyried. Yn dilyn dadansoddiad cychwynnol o’r wybodaeth bellach sydd wedi’i darparu erbyn hyn, mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi dod i’r casgliad bod angen cyfnod ychwanegol o amser i gwblhau ei ystyriaeth mewn perthynas â’r effeithiau amgylcheddol a’r materion eraill a oedd heb eu datrys yn dilyn yr archwiliad.
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu ailbennu’r dyddiad cau statudol ar gyfer y cais hwn i 30 Medi 2020. Gan nad yw’r Senedd yn eistedd, caiff datganiad yn cadarnhau’r dyddiad cau newydd ar gyfer penderfyniad ei wneud i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn unol ag adran 107(7) o Ddeddf Cynllunio 2008 cyn gynted ag y bo modd ar ôl i’r Senedd ailddechrau.

PWYSIG: O ganlyniad i ganllawiau parhaus y Llywodraeth yn ymwneud â COVID-19, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ceisio sicrhau bod pob Parti yn cael gwybod am ddatblygiadau allweddol ar brosiectau mewn modd amserol. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, ac i leihau unrhyw oedi a allai godi os effeithir ar y gwasanaeth post, byddai’n ddefnyddiol iawn pe bai Partïon cofrestredig nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny yn gallu rhoi cyfeiriad e-bost cyswllt inni cyn gynted â phosibl (manylion ym mhennawd gwybodaeth gyswllt tudalen y prosiect).
Sicrhewch y bydd y wybodaeth hon yn cael ei rheoli yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd.

Yn dilyn y llythyr ymgynghori dyddiedig 24 Ionawr 2020 mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cael rhagor o sylwadau gan bartïon sydd â buddiant yn hyn o beth ynghylch yr ymatebion i’r ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2019. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wrthi’n adolygu’r sylwadau hyn ac, os bydd angen hynny, gall benderfynu cyhoeddi ymgynghoriad pellach gyda’r partïon sydd â buddiant.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cael ymatebion i’w llythyr ymgynghori dyddiedig 23 Hydref 2019 ac mae wrthi’n adolygu’r ymatebion hyn. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd yn ei ymateb ei fod yn dal heb roi’r newyddion diweddaraf i’r Ysgrifennydd Gwladol ar nifer o faterion sydd heb eu datrys.
Tra bydd yr Ymgeisydd yn cwblhau’r diweddariadau hynny, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gwahodd sylwadau gan yr Ymgeisydd a’r Partïon sydd â buddiant yn hyn ar yr ymatebion i’w hymgynghoriad. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol benderfynu cyhoeddi ymgynghoriad pellach gyda’r partïon sydd â buddiant yn hyn os bydd angen hynny, ar ôl i’r holl wybodaeth gael ei chydgasglu.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi derbyn ymatebion i’w llythyr ymgynghori, dyddiedig 23 Hydref 2019. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn adolygu pob ymateb cyn gynted â phosibl a gall benderfynu cyhoeddi ymgynghoriad pellach gyda phartïon â diddordeb os bydd angen. Os nad oes angen hyn, yna gwahoddir sylwadau gan bartïon â diddordeb erbyn y dyddiad cau ar 31 Rhagfyr 2019.

Rhoddodd yr Awdurdod Archwilio Adroddiad ar Argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol ar 23 Gorffennaf 2019. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gwahodd Gweithrediaeth Iechyd a Diogelwch, Cadw a Partïon sydd â Buddiant yn hyn o beth i gyflwyno sylwadau ar nifer o faterion sy’n dal heb eu datrys.
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 31 Rhagfyr 2019. Gan hynny, sylwch fod dyddiad cau y prosiect hwn wedi’i ohirio tan 31 Mawrth 2020.


Caeodd yr Archwiliad am 23.59 ar 23 Ebrill 2019.
Mae hysbysiad o gwblhau llythr Awdurdod Arholi wedi’i gyhoeddi ac mae’r Llyfrgell Arholi wedi’i diweddaru.

Sylwch fod rai dogfennau cyflwyniad Terfyn Amser 10 wedi’i gyhoeddi heddiw; diweddarwyd y Llyfrgell Arholi hefyd.


Noder bod yr holl ddogfennau a dderbyniwyd ar gyfer terfyn amser 10 bellach wedi’u cyhoeddi ac mae Llyfrgell yr Archwiliad wedi’i ddiweddaru.

Mae’r Awdurdod Arholi wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan bartïon sydd â diddordeb – Sylwch y bydd fersiwn dwyieithog o’r llythyr hwn yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol

Mae’r Awdurdod Arholi wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan yr Office for Nuclear Regulation (ONR).

Noder, mae’r pwyntiau gweithredu a’r recordiadau sain o wrandawiadau mis Mawrth wedi’u cyhoeddi.
Mae cyflwyniadau o derfyn amser 7 hefyd wedi’u cyhoeddi a bydd y Llyfrgell Arholi’n cael ei diweddaru’n fuan.

Mae Pwyntiau Gweithredu Cymraeg o Wrandawiadau Mis Mawrth bellach wedi’u cyhoeddi ac maent ar gael yn ddwyieithog mewn un ddogfen.

Sylwer, mae’r Awdurdod Archwilio wedi cyhoeddi agendâu gwrandawiad diwygiedig ar gyfer dydd Llun 4 a dydd Iau 7 Mawrth.
Mae’r agenda ar gyfer gwrandawiad DCO ddydd Mercher 6 Mawrth bellach wedi’i gyhoeddi hefyd.

Cyhoeddwyd Penderfyniad Gweithdrefnol yr Awdurdod Arholi a chais am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd mewn ymateb i geisiadau’r ymgeisydd i newid agweddau ar y datblygiad arfaethedig.

Mae’r Theithlen Archwiliad Safle â Chymorth a’r agendau ar gyfer y Gwrandawiadau Penodol ar 4 Mawrth 2019 a 7 Mawrth 2019 bellach wedi’u cyhoeddi

Sylwer y cyhoeddwyd pwyntiau gweithredu o wrandawiadau mis Ionawr, cyflwyniadau terfyn amser 4 a’r llyfrgell archwiliad.

Mae’r Awdurdod Archwilio wedi derbyn cyflwyniad ychwanegol o’r Ymgeisydd sy’n cadarnhau ei sefyllfa yn yr Archwiliad.

Cyhoeddwyd ymatebion terfyn amser 3 ac agendâu gwrandawiadau mis Ionawr 2019. Mae’r Llyfrgell Archwiliad wedi’i ddiweddaru.


I’w nodi yn dilyn Dyddiad Cau 2, doedd REP2-002, REP2-007, REP2-031 REP2-370, REP2-371, REP2-372 na REP2-373 wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiadau gwreiddiol a disodlwyd REP2-025 gyda fersiwn wedi’i ddiweddaru ers ei gyhoeddiad gwreiddiol.
Mae Llyfrgell yr Archwiliad wedi’i ddiweddaru ac mae’n cynnwys holl ddogfennau Dyddiad Cau 2.

Sylwch chafodd rhai dogfennau eu hepgor o’r Llyfrgell Arholiad ar ôl cyhoeddi’r dogfennau dyddiad cau 1 mae’r rhain bellach wedi’u cyhoeddi ac maent ar gael.

Mae recordiadau sain wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer y Gwrandawiadau canlynol: Cyfarfod Rhagarweiniol, Gwrandawiad Mater Penodol & Gwrandawiad Llawr Agored

Mae’r amserlen arholiadau (llythyr rheol 8 llythyr) wedi ei anfon at bartïon â buddiant
Penderfyniad gweithdrefnol yn dilyn y Cyfarfod Rhagarweiniol

Derbyniwyd y llythyr clawr, cais am newid cyntaf yr Ymgeisydd (strategaeth Blastio) a ail gais am newid yr Ymgeisydd (symudiadau Llongau Morol) yn ôl disgresiwn yr Awdurdod Arholi.

Mae ymatebion i’r llythyr Rheol 6 a agenda ychwanegol yr Awdurdod Archwilio am y Gwrandawiad Mater Penodol i’r Gorchymyn Caniatad Datblygu Drafft wedi eu cyhoeddi.


Mae’r agendâu ar gyfer y Gwrandawiad Rhifyn Penodol ar y Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft a’r Gwrandawiadau Llawr Agored wedi’u gyhoeddu.

Mae hysbysiad o’r Cyfarfod Rhagarweiniol (llythyr Rheol 6) wedi ei ddanfon i gyfranogion Darllenwch y llythyr
Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys yr Amserlen Archwilio ddrafft a’r Asesiad Cychwynnol o Brif Faterion.

Mae’r ymgeisydd wedi anfon llythyr atom, yn esbonio bod rhai o’r hysbysiadau a anfonwyd ganddynt am y gyfle i wneud sylwadau perthnasol yn cael eu dychwelyd heb ei danysgrifio. Mae’r ymgeisydd wedi anfon hysbysiadau pellach i’r partïon hynny yn unig, ac mae wedi caniatáu mwy o amser iddynt gyflwyno eu sylwadau erbyn 18 Medi 2018. Os ydych chi wedi derbyn hysbysiad pellach ac yn dymuno gwneud sylwadau, cysylltwch â ni yn [email protected].






Mae digwyddiad allgymorth cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth am y broses caniatâd datblygu yn cael ei gynnal yn Llangefni ar ddydd Mawrth 4 Hydref, 2016. Mae hwn yn ddigwyddiad ychwanegol a fydd yn cynnwys gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na lwyddwyd i’w ddarparu yn flaenorol.

Mae digwyddiad allgymorth cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth am y broses caniatâd datblygu yn cael ei gynnal yn Llangefni ar ddydd Mawrth 6 Medi 2016. Cyfeiriwch at y poster digwyddiad cyhoeddus am fanylion pellach.