Fferm Wynt Alltraeth Mona

Beth fydd yn digwydd nesaf

Cyhoeddir manylion y Cyfarfod Rhagarweiniol ar y dudalen hon yn fuan.

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n cynnal Asesiad Cychwynnol o’r Prif Faterion sy’n codi o ddarllen y cais a’r Sylwadau Perthnasol a dderbyniwyd ac yn gosod dyddiad ar gyfer y Cyfarfod Rhagarweiniol.

Bydd Partïon â Buddant yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarfod Rhagarweiniol a fydd yn trafod materion gweithdrefnol yn unig, ac fe’i cynhelir yn gyhoeddus. Nid yw mynychu’r Cyfarfod Rhagarweiniol yn hanfodol. P’un ai y bydd Parti â Buddiant yn dewis mynychu’r Cyfarfod Rhagarweiniol ai peidio, byddant yn parhau i dderbyn manylion sut i gymryd rhan bellach yn yr Archwiliad.

Caiff y Penderfyniad Gweithdrefnol a wneir ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol ei gyhoeddi ar ein gwefan a hefyd bydd ar gael ar gais oddi wrth ac oddi wrth ein llinell gymorth: 0303 444 5000. Mae’n bwysig nodi y bydd y Penderfyniad Gweithdrefnol hwn yn gosod yr amserlen ar gyfer yr Archwiliad. Bydd Amserlen yr Archwiliad, ymhlith pethau eraill, yn gosod terfynau amser ar gyfer derbyn Sylwadau Ysgrifenedig manwl a sylwadau ar y Sylwadau Perthnasol a wneir gan Bartïon eraill â Buddiant.

Os ydych yn Barti â Buddiant, naill ai oherwydd rydych yn un o’r cyrff penodol a nodir yn a102 Deddf Cynllunio 2008 neu oherwydd eich bod wedi cyflwyno Sylw Perthnasol, byddwch yn derbyn hysbysiadau am yr Archwiliad a chopi o benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ar y cais wedi iddo gael ei wneud.

Os oes gennych fuddiant cyfreithiol mewn tir a effeithir gan Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol ac:

  • nid ydych wedi’ch nodi gan yr Ymgeisydd; ac
  • nid oeddech wedi cofrestru i ddod yn Barti â Buddiant;

gallwch wneud cais i’r Awdurdod Archwilio i ddod yn Barti â Buddiant o dan a102A Deddf Cynllunio 2008.

Llinell amser (22 Eitemau)

Yr archwiliad yn dechrau
16/07/2024

Mae cyfarwyddiadau wedi cael eu danfon i’r rhai sydd wedi cofrestru i gymryd rhan yn y Cyfarfod Rhagarweiniol (PM), Gwrandawiad Mater Penodol 1 (ISH1), Gwrandawiad Mater Penodol 2 (ISH2) a Gwrandawiad Llawr Agored 1 (OFH1).

Dylai unrhyw un sy’n dymuno arsylwi’r digwyddiadau yn fyw defnyddio’r dolenni canlynol:

I wylio heb gyfieithu cydamserol: https://cvslivestream.co.uk/mona/

I wylio gyda chyfieithu cydamserol o’r Gymraeg i’r Saesneg: https://cvslivestream.co.uk/mona-english/

Bydd y dolenni uchod yn aros yr un fath ar gyfer pob digwyddiad sy’n ymwneud â’r prosiect hwn yn ystod yr wythnos yn dechrau 15 Gorffennaf 2024.

Sylwch y bydd y digwyddiadau’n dechrau darlledu’n fyw pan fyddant yn cael eu hagor gan yr Awdurdod Archwilio. Os nad yw’r ffrwd yn gweithio i ddechrau mae’n bosib y caiff ei ddatrys trwy adnewyddu’r dudalen we.

12/07/2024

Mae’r ExA wedi arfer ei disgresiwn i dderbyn y Cyflwyniad Ychwanegol canlynol:

Mae’r Llyfrgell yr Archwiliad (PDF, 418KB) wedi cael ei ddiweddaru.

11/07/2024

Cynhaliodd yr Awdurdod Archwilio (ExA) Arolygiad Safle Digwmni ar 18, 19 a 20 Mehefin 2024 (PDF, 165 KB). Mae’r nodyn bellach wedi’i gyhoeddi.

Mae’r ExA wedi arfer ei disgresiwn i dderbyn y Cyflwyniad Ychwanegol a ganlyn:

Mae Llyfrgell yr Archwiliad (PDF, 422 KB) wedi’i diweddaru.

08/07/2024

Mae’r Awdurdod Archwilio wedi arfer ei ddisgresiwn i dderbyn Cyflwyniadau Ychwanegol gan:

Rydym wedi cael gwybod yn ddiweddar bod cyflwyniad Dyddiad Cau Gweithdrefnol gan Natural England (PDF,  277 KB) wedi’i hepgor o gyhoeddi yn anfwriadol ar 28 Mehefin 2024. Mae hwn bellach wedi’i gyhoeddi.

Mae’r Llyfrgell yr Archwiliad (PDF, 421 KB) wedi cael ei ddiweddaru.

04/07/2024

Mae cyflwyniadau Terfyn Amser Gweithdrefnol wedi cael eu cyhoeddi.

Mae Llyfrgell yr Archwiliad (PDF, 340kb) wedi cael ei ddiweddaru.

28/06/2024

Mae’r Awdurdod Archwilio wedi arfer ei ddisgresiwn i wahodd y partïon canlynol i’r Cyfarfod Rhagarweiniol fel ‘Personau Eraill’:

Mae Llyfrgell yr Archwiliad (PDF, 361 KB) wedi’i diweddaru.

18/06/2024

Mae’r hysbysiad o gyfarfod rhagarweiniol (‘Llythyr Rheol 6’) wedi cael ei ddanfon. Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys amserlen yr arholiadau ddrafft ac asesiad cychwynnol o’r prif faterion.

Gweler y llythyr Rheol 6 (PDF, 841KB)

Mae’r Llyfrgell yr Archwiliad (PDF, 363KB) wedi cael ei diweddaru.

10/06/2024
milestone icon

Mae hysbysiad o’r Cyfarfod Rhagarweiniol (llythyr Rheol 6) wedi ei ddanfon i gyfranogion Darllenwch y llythyr

Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys yr Amserlen Archwilio ddrafft a’r Asesiad Cychwynnol o Brif Faterion.

07/06/2024
Cyhoeddi sylwadau perthnasol ar y wefan
10/05/2024
Cofrestru partïon â buddiant yn dod i ben
06/05/2024

Cofrestru ar-lein

Maer Awdurdod Archwilio wedi arfer ei ddisgresiwn i dderbyn y Cyflwyniad Ychwanegol canlynol:

Mae Llyfrgell yr Archwiliad (PDF, 296 KB) wedi’i diweddaru.

24/04/2024

Cofrestru ar-lein Maer Awdurdod Archwilio wedi arfer ei ddisgresiwn i dderbyn y Cyflwyniad Ychwanegol canlynol:

Mae Llyfrgell yr Archwiliad (PDF, 295 KB) wedii diweddaru.

19/04/2024

Yn ddiweddar, tynnwyd ein sylw at y ffaith nad oedd dyddiad cau’r cyfnod Cynrychiolaeth Berthnasol i’w weld ar dudalen we’r prosiect.  Cofrestru ar-lein

Mae hyn bellach wedi’i gywiro. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.

Mae’r cofrestriad yn cau ar 6 Mai 2024 am 23:59.

10/04/2024

Mae’r Awdurdod Archwilio wedi arfer ei ddisgresiwn i dderbyn Cyflwyniadau Ychwanegol gan yr Ymgeisydd sy’n ymwneud â wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani yng nghyngor Adran 51 gan yr Arolygiaeth Gynllunio ddyddiedig 21 Mawrth 2024 (PDF, 199 KB).

Mae’r Llyfrgell yr Archwiliad (PDF, 276 KB) yn cael ei diweddaru’n fuan.

Gallwch gofrestru’n barti â buddiant nawrCofrestru ar-lein

Os nad ydych yn gallu llenwi ffurflen gofrestru ar-lein a hoffech gofrestru eich diddordeb, ffoniwch y llinell gymorth ar: 0303 444 5000 i ofyn am ffurflen bapur. Nodyn Cyngor ar Gofrestru

05/04/2024
Cofrestru’n dechrau i bartïon â buddiant
28/03/2024
milestone icon Darllen y llythyr

Derbyniwyd y cais i’w archwilio

21/03/2024
Penderfyniad ynghylch p’un a ddylid derbyn cais i’w archwilio ai peidio
21/03/2024

Derbyniwyd y cais hwn gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar 22 Chwefror 2024.

Bydd dogfennaur cais ar gael ar dudalen prosiect y wefan hon os ywr cais yn cael ei dderbyn iw archwilio.

23/02/2024
Cais wedi cyraedd yr Arolygiaeth Gynllunio
22/02/2024
Disgwylir cais gan yr ymgeisydd
21/02/2024