Abergelli Power
Enquiry
Ymholiad – 16 Chwefror 2018 / Enquiry – 16 February 2018
Roedd Mr David Jenkins, clerc Cyngor Cymuned Llangyfelach, yn holi ynghylch cyflwyno ei ymateb i’r ymgynghoriad, sydd i fod cyrraedd erbyn 19 Chwefror 2018. Ni fu ar gael yn ddiweddar a chyfnod cyfyngedig o amser yn unig sydd ar ôl ganddo ar gyfer cyflwyno sylwadau. Y prif bryderon, yn ei farn ef a CC Llangyfelach, yw effaith weledol y simnai a’r effaith ar ansawdd yr aer ar dir cyfagos sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol (sy’n cael ei archwilio ar hyn o bryd) fel safle posibl ar gyfer datblygiad preswyl ar raddfa fawr, a’r effaith ar Barc Busnes Abertawe gerllaw ac ar Ysbyty Treforys, sy’n uned drawma fawr.
Mr David Jenkins, clerk to Llangyfelach Community Council, was enquiring about submitting his consultation response, due by 19 February 2018. He’s recently been unavailable and has a limited amount of time left in which to submit representations. His/Llangyfelach CC’s main concerns are the visual impact of the stack and air quality impacts on land nearby which has been included in the Local Development Plan (currently under examination) as a potential site for large scale residential development, the effect on the nearby Swansea Business Park and on Morrison Hospital, which is a major trauma unit.
Advice given
Cynghorwyd Mr Jenkins gan yr Arolygiaeth Gynllunio bod yr Ymgeisydd yn cynnal cylch ymgynghori ac mai’r dyddiad cau yw 19 Chwefror 2018. Gan fod y cais yn y cyfnod cyn ymgeisio ar hyn o bryd, dylid cyfeirio ymatebion at yr Ymgeisydd yn uniongyrchol. Esboniodd yr Arolygiaeth ei bod yn ofynnol i’r Ymgeisydd fformiwleiddio’r ymatebion y mae’n eu derbyn erbyn y dyddiad cau ac esbonio sut y rhoddwyd sylw i faterion fel rhan o’r Adroddiad Ymgynghori, a fydd yn cyd-fynd â’r cais, maes o law.
Cyfeiriwyd Mr Jenkins at wefan yr Ymgeisydd, sy’n cynnwys gwybodaeth am y prosiect yn ogystal â dogfennau ategol allweddol.
Hefyd, esboniodd yr Arolygiaeth wrth Mr Jenkins y gallai gofrestru i ddod yn berson â buddiant yn ystod y cyfnod cyn archwiliad, os derbynnir y cais ar gyfer ei archwilio. Fe’i cyfeiriwyd at dudalen prosiect Abergelli ar wefan yr Arolygiaeth ac esboniwyd y bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen hon ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno ar gyfer ei archwilio. Yn ogystal, tynnwyd sylw Mr Jenkins gan yr Arolygiaeth at ei nodiadau cyngor, a NC8 yn arbennig, sy’n helpu esbonio’r broses ymgeisio i aelodau’r cyhoedd.
Bydd Mr Jenkins yn llunio ei ymateb i’r ymgynghoriad dros y penwythnos a’i anfon drwy e-bost at yr Ymgeisydd ddydd Llun er mwyn cwrdd â’r dyddiad cau.
The Planning Inspectorate advised Mr Jenkins that the Applicant was carrying out a round of consultation and the closing date is 19 February 2018. As the application is currently at pre-application stage, responses should be made directly to the Applicant. The Inspectorate explained that the Applicant is required to formulate responses it receives by the deadline and explain how issues have been addressed as part of the Consultation Report, which will accompany the application, in due course.
Mr Jenkins was directed to the Applicant’s website which contains information on the project as well as key supporting documents.
The Inspectorate also explained to Mr Jenkins that he could register to become an interested person during the pre-examination stage, if the application is accepted for examination. He was directed to the Abergelli project page on the Inspectorate’s website and it was explained that all information would be published to this page when the application is submitted for examination. The Inspectorate also advised Mr Jenkins aware of its advice notes, in particular AN8, which helps explain the application process to members of the public.
Mr Jenkins will formulate his consultation response over the weekend and send it by e-mail to the Applicant on Monday to meet the deadline.